Cleientiaid

Dyma rhai o fy nghleientiaid. Cliciwch ar y dolenni er mwyn darllen mwy am y gwaith, a gweld tystebau.


Cymru Masnach Deg

Cynhaliais i sesiwn hyfforddiant cyfryngau gyda Cymru Masnach Deg yn Ebrill 2023.

New Pathways

Cynhaliais sesiwn hyfforddiant cyfryngau yng Nghaerdydd i’r elusen New Pathways.

Ecosystems Knowledge Network

Ysgrifennais archwiliad cyfathrebu ar gyfer y sefydliad amgylcheddol yr Ecosystems Knowledge Network.

Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

Gweithiais i gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i greu fideo er mwyn rhannu profiadau gofalwyr ifanc.

Prifysgol Caerdydd

Cynhaliais i sesiwn am astudiaethau achos mewn ymgyrchoedd i fyfyrwyr yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant.

DEC

Darparais i hyfforddiant cyfryngau 1:1 i staff DEC, trwy gyfrwng y Gymraeg.

WCIA

Fe redais sesiwn hyfforddiant cyfryngau i staff WCIA.

TUC Cymru

Fe ddatblygais a rhedais ddwy sesiwn hyfforddiant, er mwyn helpu aelodau TUC Cymru i ddatblygu astudiaethau achos effeithiol.

Adfywio Cymru

Darparais i gyngor ac hyfforddiant am ysgrifennu copi a chyflwyno astudiaethau achos.

Living Streets

Rwyf wedi ysgrifennu copi, creu tudalennau gwe, a golygu fideo i’r elusen Living Streets.

Cynnal Cymru – Sustain Wales

Rwyf wedi gwneud cymysgedd o waith strategol ac hyrwyddo i’r elusen.

Cylchgrawn Radio User

Rydw i wedi dechrau ysgrifennu erthyglau i’r cylchgrawn Radio User.

Hub Cymru Africa

Rydw i wedi bod yn gweithio gyda Hub Cymru Africa er mwyn lansio ei bodlediad, tra’n datblygu sgiliau cynllunio a chynhyrchu’r tîm.

Cycling UK Cymru

Ym mis Mawrth-Ebrill 2021 gwnes i archwiliad cyfathrebu dros Cycling UK Cymru, a gwneud arghymhellion am sut i gyfathrebu’n fwy effeithiol.

Frame Collective CIC

Gweithiais gyda Frame Collective CIC er mwyn hyrwyddo eu prosiect Sgyrsiau Sy’n Cyfrif.

Hyfforddiant NUJ Cymru

Rwy’n darparu hyfforddiant cyfathrebu trwy Hyfforddiant NUJ Cymru.

Celfyddydau Anabledd Cymru

Rydw i wedi gweithio gyda DAC ar sawl prosiect – gwaith strategol, cefnogaeth/hyfforddiant, cynnwys fideo, a recriwtio.