
Ym mis Chwefror 2021 fe ddechreuais i gwrs newydd sbon dros Hyfforddiant NUJ Cymru o’r enw ‘Securing broadcast news coverage for your report or campaign’.
Nod y cwrs hanner diwrnod hwn yw helpu cyfathrebwyr ac ymgyrchwyr i ddefnyddio pŵer newyddion teledu a radio er mwyn dylanwadu ar wneuthurwyr penderfyniadau, rhanddeiliaid a’r cyhoedd. Mae’n cynnwys datblygu cynllun strategol a negeseuon, ymgysylltu â newyddiadurwyr, a pharatoi cynnwys er mwyn sichrhau sylw effeithiol.
Hefyd yn y cwrs rydyn ni’n edrych ar sut i gefnogi llefarwyr, rheoli risgiau, a gweithio’n ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg.
Tysteb: “Would recommend to anybody with an interest in communications – it’s a comprehensive course that explains the basics of media relationships and how to go about securing broadcast coverage. It was really engaging with the right mix of trainer talk and activities. Processes were polished, all ran smoothly, and I thoroughly enjoyed!”