
Mae Cymdeithas Yr Iaith Gymraeg yn gweithredu’n ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru fel rhan o’r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid.
Cynhaliais i ddwy sesiwn hyfforddiant cyfryngau i’r Gymdeithas yn 2024.
Yn 2025, darparais hyfforddiant cysylltiadau â’r cyfryngau i staff Cymdeithas yr Iaith.
Tystebau
“Darparodd Richard hyfforddiant craff a defnyddiol a gryfhaodd hyder a sgiliau cyfathrebu mynychwyr o ystod o allu blaenorol. Bydd ei gyfraniad i’r Gymdeithas yn hynod werthfawr ar gyfer gwaith y mudiad wrth fynd yn ei flaen.”
– Owain Meirion, Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol
“Roedd y sesiwn hyfforddi gan Richard yn hynod o fuddiol. Darparodd gyngor defnyddiol ac ymarferol sydd wedi llwyddo i gynyddu fy sgiliau a hyder yn y maes cyfryngau.”
– Cynrychiolydd Cymdeithas yr Iaith