Amdanaf i

Helo, Richard ydw i, arbenigwr cyfathrebu dwyieithog sy’n byw yng Nghaerdydd.

Fy nod ydy helpu achosion da i gyfathrebu’n fwy effeithiol, gyda ffocws ar gynnwys, strategaeth ac hyfforddiant.

Gyda dau ddegawd o brofiad ym maes cyfathrebu a’r cyfryngau, cynigaf gefnogaeth llawrydd i elusennau, yn ogystal â sefydliadau nid-er-elw a moesegol eraill.

Dysgais i adrodd straeon yn syml ac yn glir pan oeddwn i’n ohebydd yn ITV Cymru, lle roeddwn i’n adrodd ar bopeth – o etholiadau a llifogydd i faterion iechyd a chyfweliadau gydag enwogion.

Fe wnes i reoli cyfathrebu yn Nghomisiwn Datblygu Cynaliadwy Cymru, ac yna ymunais i â WWF Cymru, lle gweithiais fy ffordd i fyny i ddod yn Bennaeth Cyfathrebu. Tra yno, tyfais bresenoldeb cyfryngau cymdeithasol yr elusen i un o’r rhai mwyaf a mwyaf dylanwadol yng Nghymru, ymgyrchais dros Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol arloesol, a sicrhau sylw yn y cyfryngau ar BBC Cymru, Western Mail a’r Guardian. Fe wnes i hefyd reoli ymgyrch Awr Ddaear Cymru, cynnal digwyddiadau gwleidyddol a lansio adroddiadau, a datblygu blog cyntaf erioed WWF-UK ‘o’r maes’ yn Kenya.

Rydw i wedi bod yn llefarydd rheolaidd yn Gymraeg a Saesneg ar radio a theledu, a nawr rwy’n cynhyrchu podlediad misol o’r enw Hefyd, am ddysgwyr Cymraeg, yn ogystal ag ysgrifennu erthyglau i’r cylchgrawn Radio User. Y tu allan i’r gwaith dwi’n mwynhau tyfu llysiau, beicio, gwleidyddiaeth, natur/yr amgylchedd a radio amatur.

Os hoffech chi gael cefnogaeth cyfathrebu i’ch prosiect neu sefydliad, neu os oes gennych syniad a hoffech ei drafod, yna cysylltwch â fi.