
Rhwydwaith o gyrff anllywodraethol amgylcheddol, cefn gwlad a threftadaeth sy’n gweithio ledled Cymru ers 1990 yw Cyswllt Amgylchedd Cymru.
Mae e’n cefnogi eu haelodau wrth ymwneud â Llywodraeth a Senedd Cymru ac yn eu helpu i gydweithio er mwyn datblygu polisi ac ymarfer amgylcheddol effeithiol.
Darparais hyfforddiant cyfryngau i aelodau o sefydliadau Cyswllt Amgylchedd Cymru ym Mehefin 2024.
Tysteb
“Helpodd Richard fi’n unigol, a hefyd grŵp bach o aelodau Cyswllt Amgylchedd Cymru, i adeiladu ein dealltwriaeth a’n hyder wrth fynd at gyfweliadau â’r cyfryngau. Mae’n gyfeillgar ac yn hawdd mynd ato tra’n rhoi adborth adeiladol ar sut i wella’ch techneg. Byddwn yn bendant yn gofyn iddo wneud mwy o hyfforddiant ar gyfer ein rhwydwaith.”
– Karen Whitfield, Cyfarwyddwr, Cyswllt Amgylchedd Cymru