
TUC Cymru yw llais Cymru yn y gwaith. Mae’n bodoli er mwyn gwella cyflyrau economaidd a chymdeithasol gweithwyr Cymru – y rheiny sy mewn swydd ar hyn o bryd, a’r rheiny sy ddim.
Dwi wedi gwneud sawl prosiect i’r sefydliad.
Golygu fideo
Yn Chwefror 2023 fe olygais dwy fideo ar gyfer cyfryngau cymdeithasol TUC Cymru.
Roedd y gwaith hwn yn cynnwys rhoi cyngor ar fformat/strwythur y fideo, golygu lluniau, ffotograffau a cherddoriaeth a ddarparwyd ganddynt, ac ychwanegu isteitlau oedd yn dilyn rheolau brandio’r sefydliad.
Gweler isod sut cafodd y fideos eu defnyddio ar Twitter.
Tysteb am y fideo HeartUnions:
“Ein cynnwys mwyaf poblogaidd yn ystod wythnos ymgyrch HeartUnions, ac rydyn ni gyd yn falch iawn ohoni.”
Ffion Dean, Swyddog Cyfathrebu Digidol a Dwyieithog, TUC Cymru
Hyfforddiant Astudiaethau Achos
Ym mis Ionawr a Chwefror 2022, fe ddatblygais a rhedais ddwy sesiwn hyfforddiant dros Zoom, er mwyn helpu staff ac aelodau sy’n gweithio ar Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF).
Nod yr hyfforddiant oedd rhoi gwybodaeth a sgiliau er mwyn creu astudiaethau achos effeithiol. Yn y sesiynau, fe edrychon ni ar y hyn sy’n gwneud astudiaeth achos da, a sut i’w cynllunio a’u datblygu mewn ffordd sy’n cael yr effaith yr ydych ei eisiau ar y gynulleidfa darged.
Tysteb
“Working with Richard to see an idea form and take shape into a finished product was a positive learning on the job experience. Richard listens! He was able to accurately develop the brief to deliver a bespoke course that met our needs and the needs of the participants. Course attendees really valued Richard’s expertise, thoughtful delivery, and offer of follow up support. We hope to work with Richard again and would recommend his skills and knowledge to any organisation or freelancer that needs communications guidance.”
Katrina Wood – Wales TUC