Mae straeon personol a chopi o safon uchel yn angenrheidiol er mwyn creu effaith. Pobl gyffredin, eu hanghenion a’u profiadau nhw, sydd wrth galon fy ngwaith i.
Datrys pynciau cymhleth? Peidiwch â phoeni – rydw i wrth fy modd yn troi ‘iaith polisi’ yn rhywbeth mae pawb yn ei deall.
Sut rwy’n gallu eich helpu chi
Rwy’n gallu cefnogi eich elusen neu sefydliad nid-er-elw gyda:
- Astudiaethau achos: gweithio gyda chi i ddewis y straeon iawn, cynnal cyfweliadau a’u troi yn gopi grymus.
- Ysgrifennu copi: paratoi testun sy’n creu argraff, mewn ffordd addas ar gyfer eich cynulleidfa darged – yn y cyfryngau, ar lein neu mewn cyhoeddiadau.
- Cynnwys gwe: creu tudalennau newydd neu addasu’r hyn sydd gyda chi yn barod – boed hynny’n gynnwys polisi, ymgyrchoedd, neu ysgrifennu blogiau a darnau newyddion.
- Fideo: cynllunio, ffilmio a golygu.
- Podlediadau: cynllunio, recordio a golygu, yn ogystal â’ch helpu chi i greu podlediad eich hunan.
Pam fy newis i?

Gyda mwy na ddau ddegawd o brofiad yn y cyfryngau a chyfathrebu yng Nghymru, mae gen i’r gallu i droi eich syniadau ac ymgyrchoedd yn gynnwys hygyrch sy’n ysbrydoli.
Fe ddatblygais i fy sgiliau ysgrifennu wrth weithio fel gohebydd i Newyddion ITV Cymru. Yno, dysgais i i saethu a golygu fideo, sut i adrodd straeon trwy luniau, a sut i gynnal cyfweliadau gydag ystod eang o bobl. Fel Gohebydd Iechyd, trafodais i faterion sensitif yn aml.
Yn WWF Cymru roeddwn i’n gyfrifol am greu tudalennau gwe, blogiau, erthyglau cyfryngau ac adnoddau ymgyrchu. Fel gweithiwr llawrydd, rydw i wedi datblygu’r sgiliau cynnwys hyn ymhellach ac wedi creu podlediad llwyddiannus fy hun, Hefyd, er mwyn helpu ac ysbrydoli dysgwyr Cymraeg lefelau canolradd ac uwch, gyda dros 10,000 o islwythiadau hyd heddiw.
Enghreifftiau
- Astudiaethau achos i Cynnal Cymru – Sustain Wales: Arup, Orangebox a Grasshopper Communications
- Gwaith gwefan i Living Streets
- Podlediad Hub Cymru Africa
- Gwaith fideo i Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru
Tystebau
Gweithiodd Richard gyda ni i ddatblygu’n syniadau am yr hyn oedd angen arnom mewn ffilm, gan gadw effaith a’n galwadau ymgyrchu’n flaenllaw. Roedd gweithio gyda pherson profiadol, sy’n deall ymgyrchu yn y trydydd sector yng Nghymru, yn hollbwysig i ni fel sefydliad. Bu Richard yn wych yn gweithio gyda’r gofalwyr ifanc ac yn bleser i weithio gyda o safbwynt proffesiynol – mae wir yn gwrando ar y briff, yn gweithio o fewn amserlen dynn ac yn darparu cynnyrch gorffenedig o safon uchel. Byddwn yn siŵr o weithio gydag ef eto cyn hir !
Catrin Edwards – Pennaeth Materion Allanol, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru
We’re thrilled with the work Richard has done to bring our project and campaigning work to life. He is an excellent project manager and is skilled at creating engaging online content for a range of platforms. He is a brilliant copy writer, but can also create multimedia content aimed at a variety of audiences.
Ruth Billingham, Head of Campaigns and Public Affairs – Living Streets
Cysylltwch â fi
Os rydych chi’n gweithio mewn elusen, sefydliad 3ydd sector neu gymdeithas nid-er-elw yng Nghymru a hoffech chi gymorth gyda chynnwys, astudiaethau achos neu ysgrifennu copi, byddwn i wrth fy modd glywed oddi wrthoch chi. Ewch draw i’m tudalen cyswllt er mwyn anfon neges ataf i.