
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn ceisio creu gwell dyfodol gydag – ac ar gyfer – gofalwyr yng Nghymru.
Cysylltodd yr elusen â fi er mwyn gofyn am syniadau i ymgysylltu â gofalwyr ifanc, a rhannu eu profiadau gyda gwneuthurwyr penderfyniadau.
Y Prosiect
Trwy weithio gyda’r tîm, datblygon ni gynllun i greu ffilm fer allai gael ei ddefnyddio mewn digwyddiad, ac ar y cyfryngau cymdeithasol (trwy greu clipiau byr).
Roedd cyfle i ffilmio’r gofalwyr ifanc mewn digwyddiad, ac fe wnes i weithio gyda’r Ymddiriedolaeth i gynllunio fformat y fideo, cwestiynau ar gyfer cyfweliadau, a syniadau o ran lluniau eraill.
Fe wnes i ffilmio’r gofalwyr a golygu’r fideos, gan ddefnyddio lluniau, miwsig ac animeiddiadau a ddarparwyd gan yr elusen.
Tysteb
Diolch yn fawr i Catrin am y tysteb hon:
Gweithiodd Richard gyda ni i ddatblygu’n syniadau am yr hyn oedd angen arnom mewn ffilm, gan gadw effaith a’n galwadau ymgyrchu’n flaenllaw. Roedd gweithio gyda pherson profiadol, sy’n deall ymgyrchu yn y trydydd sector yng Nghymru, yn hollbwysig i ni fel sefydliad. Bu Richard yn wych yn gweithio gyda’r gofalwyr ifanc ac yn bleser i weithio gyda o safbwynt proffesiynol – mae wir yn gwrando ar y briff, yn gweithio o fewn amserlen tynn ac yn darparu cynnyrch gorffenedig o safon uchel. Byddwn yn siwr o weithio gydag ef eto cyn hir !
Catrin Edwards – Pennaeth Materion Allanol, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru