Podlediad Hefyd

Mae Hefyd yn bodlediad am fywydau dysgwyr Cymraeg – pobl sydd yn – neu wedi – dysgu’r iaith fel oedolion. Ym mhob pennod byddai’n cyfweld ag un person. Byddai’n eu holi nhw am pam a sut ddysgon nhw, a sut mae’r iaith yn rhan o’u bywydau nhw erbyn hyn.

Anelir Hefyd at ddysgwyr canolradd/uwch a siaradwyr rhugl. Byddai’n trio rhannu geirfa ar gyfer pob pennod.

Gallwch chi wrando isod, neu danysgrifio ar Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts ac apiau eraill.

Os hoffech chi gymryd rhan, neu awgrymu gwestai, cysylltwch â fi! Dwi wastad yn chwilio am bobl diddorol ar gyfer y podlediad.

Gallwch chi ein dilyn ni ar Mastodon trwy ‘instance’ Toot.Wales: PodlediadHefyd@toot.wales

Rhys a Connor Davis – brodyr sy'n dysgu Cymraeg yn America, diolch i Mamgu! | Pennod 35 – Podlediad Hefyd – straeon am ddysgu Cymraeg

Ein gwesteion y tro yma ydy Rhys a Connor Davis – dau frawd anhygoel o Ohio yn yr Unol Daleithiau. Maen nhw wedi dysgu Cymraeg er mwyn siarad gyda’u Mam-gu, sy’n dod o Gymru! Cyfrif Tiktok Rhys Cyfrif Instagram Rhys Recordiwyd ein sgwrs yn Ebrill 2026. *** Cyflwynydd: Richard Nosworthy Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd, rhannwch gyda ffrindiau, a gadewch sgôr (rating) ac adolygiad… > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts Dilynwch fi ar Mastodon – cyfryngau cymdeithasol rhydd ac agored.  *** Eisiau cymorth cyfathrebu? Rwy'n cefnogi sefydliadau nid-er-elw, gyda hyfforddiant, cynnwys a chyngor strategol.   
  1. Rhys a Connor Davis – brodyr sy'n dysgu Cymraeg yn America, diolch i Mamgu! | Pennod 35
  2. Andy Bell – Llais (Cymraeg) Awstralia | Pennod 34
  3. Geordan Burress – Ohio, Cymru a Super Furry Animals (o'r archif) | Pennod 33
  4. Sut ddysgodd y Doctor Cymraeg yr iaith ei hun! (O'r archif) | Pennod 32
  5. Angharad Jones: Athrawes o'r Cymoedd sydd wedi dysgu Cymraeg (o'r archif) | Pennod 31
  6. Rhiannon Oliver: Yr actores Doctors a Torchwood o Benarth (o'r archif) | Pennod 30
  7. Barbara a Bernard: Traddodiad Nadolig a byw ar y ffin (o'r archif) | Pennod 29
  8. Walter Brooks: O Batagonia i Gymru (o'r archif) | Pennod 28
  9. Jazz Owen: Dysgu ac addysgu yn Sir Benfro | Pennod 27
  10. Daniel Minty: dysgu Cymraeg trwy'r sîn roc Gymraeg | Pennod 26

Leave a Reply