
Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn ysbrydoli pobl i ddysgu a gweithredu ar faterion byd-eang fel bod pawb yng Nghymru yn gallu cyfrannu at greu byd mwy teg a heddychlon.
Comisiynodd yr elusen fi i baratoi a rhedeg hyfforddiant cyfryngau i’w staff. Y nodau oedd eu helpu i baratoi ar gyfer cyfweliadau, magu hyder, a pherfformio’n dda ar yr awyr.
Wrth fanteisio ar fy mhrofiad fel gohebydd newyddion teledu a rheolwr cyfathrebu/llefarydd, fe ddatblygais hyfforddiant ar-lein i dîm WCIA. Cafodd hwn ei deilwra er mwyn cwrdd ag anghenion y tri chyfranogwr.
Roedd y diwrnod yn cynnwys cyflwyniadau, trafodaethau, enghreifftiau ac ymarferion chwarae rôl. Wedi’r sesiwn, anfonais adborth ysgrifenedig personol atynt.
Tysteb
“Richard gave me and colleagues excellent bespoke media training – we all came out of the session more confident and full of ideas – thank you!”
Susie Ventris-Field, Prif Weithredwr WCIA – Ebrill 2022