
Elusen gofrestredig yw Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, sy’n gweithio i wella bywydau pobl ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf. Mae ei gwaith yn cynnwys rhedeg theatrau, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, plasty a pharc gwledig a dau brosiect seiliedig ar waith ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu.
Archwiliad Cyfathrebu
Yn 2025, cyflawnais i archwiliad cyfathrebu i Awen. Y nod oedd i’w helpu i greu strategaeth cyfathrebu sy’n cyd-fynd â strategaeth sefydliadol newydd.
Roedd yr archwiliad yn cynnwys asesiad o ddulliau cyfathrebu presennol, cyfweliadau â phobl allweddol, a chymhariaethau gyda sefydliadau tebyg. Ysgrifennais adroddiad gydag argymhellion.
Tysteb
“Darparodd ein harchwiliad cyfathrebu asesiad gwrthrychol o’n gwaith presennol ac argymhellodd lawer o gyfleoedd i wella. Rwy’n ffodus bod ein Prif Weithredwr a’n Bwrdd Ymddiriedolwyr yn cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu strategol a, gyda’u cefnogaeth, byddwn yn gweithredu argymhellion Richard dros y misoedd nesaf.”
– Cynrychiolydd Awen
Hyfforddiant Ysgrifennu Copi
Darparais hyfforddiant ysgrifennu copi 1:1 i Ffion, Swyddog Marchnata Llyfrgelloedd Awen.
Tysteb
“Roedd fy hyfforddiant gyda Richard yn ddefnyddiol tu hwnt. Helpodd e fi i ddeall sut i wella fy sgiliau ysgrifennu copi ac i deimlo’n fwy hyderus. Roedd hi’n wych i ddysgu sut i wella naws llais a strwythur fy nghyfathrebu ysgrifenedig.”
Ffion Burgess, Swyddog Marchnata Llyfrgelloedd Awen