Rydw i wedi bod yn gweithio gyda Hub Cymru Africa er mwyn lansio ei bodlediad, tra’n datblygu sgiliau cynllunio a chynhyrchu’r tîm. Mae’r prosiect wedi cynnwys cyngor, hyfforddiant, cymorth technegol a golygu sain.
Y Brîff

Mae Hub Cymru Africa yn bartneriaeth sy’n cefnogi cymuned Cymru ac Affrica, gan ddwyn ynghyd waith Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica, Panel Cynghori Is-Sahara a Chymru Masnach Deg.
Roedd y sefydliad yn chwilio am gefnogaeth i lansio podlediad yn y tymor byr, tra’n datblygu sgiliau podledu’r tîm ar gyfer prosiectau’r dyfodol.
Yr her oedd sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng cyngor, hyfforddiant a chefnogaeth.
Y Prosiect
Gweithiais i gyda’r tîm i ddatblygu pecyn o wasanaethau er mwyn ymateb i’r brîff. Roedd hyn yn cynnwys:
- Gweithdy staff, hyfforddiant ‘cyflwyniad i bodledu’, ac ymarferion i greu gweledigaeth ar gyfer eu podlediad nhw
- Adroddiad gyda argymhellion, oedd yn cynnwys amcanion, amserlen, rôlau staff ac adnoddau
- Hyfforddiant ymarferol i staff am sut i gynllunio, sgriptio, sefydlu a recordio podlediad, a sut i weithio gyda golygydd er mwyn rhoi pennod at ei gilydd
- Cefnogi staff i gydosod offer
- Pennod cyntaf: cyngor ar gynllunio, cydlynu recordio a golygu sain
Canlyniadau
Erbyn hyn, mae’r tîm wedi datblygu’r sgiliau ac adnoddau i gynllunio a chynhyrchu podlediadau, gyda chefnogaeth golygydd sain. Mae Hub Cymru Africa wedi lansio ei bodlediad ar blatfform Podbean.
Diweddariad Mai 2022: Rwyf bellach wedi golygu sain ar gyfer 3 pennod o bodlediad HCA – gwrandewch isod!
Tysteb
“Richard gave us team training on how to develop our podcast concept, followed by one to one support on creating and producing the podcasts. His knowledge and creativity is excellent, but his personal approach and hands on support is what has really made the difference for us; making the process as stress free and seamless as possible. Giving us a product we are really happy with.”
Cath Moulogo – Hub Cymru Africa
