Academi Heddwch Cymru

Diben yr Academi Heddwch yw ymestyn traddodiad cryf Cymru o ran hyrwyddo a gweithio dros heddwch, drwy ddatblygu a chydgysylltu cymuned o ymchwilwyr annibynnol mewn meysydd cysylltiedig.

Archwiliad cyfathrebu a datblygu strategaeth

Roedd yr Academi yn chwilio am gymorth i gyfathrebu’n effeithiol, wrth i’r sefydliad ehangu a datblygu.

Cynhaliais archwiliad cyfathrebu er mwyn asesu’r sefyllfa. Roedd hyn yn cynnwys edrych ar wefan yr Academi, ei gyfryngau cymdeithasol, a sylw yn y cyfryngau. Ar ôl hynny, gweithiais i gyda’r Academi i gynnal gweithdy cyfathrebu, ac ysgrifennais i strategaeth cyfathrebu ddrafft iddyn nhw.

Datblygu ‘naratif cyhoeddus’

Datblygu negeseuon i ddisgrifio’r Academi a’i waith oedd un o flaenoriaethau’r strategaeth. Yng nghaeaf 2023/4, gweithiais i gyda’r sefydliad i greu ‘naratif cyhoeddus’ – testun safonol i’w ddefnyddio ar draws cyfathrebiadau’r Academi.

Tysteb

“Ysgrifennodd Richard strategaeth gyfathrebu ddefnyddiol iawn, yn seiliedig ar archwiliad cyfathrebu a gweithdy dwyieithog a hwyluswyd ganddo ymlaen llaw. Mae Richard yn gyfeillgar ac yn drylwyr, a helpodd ni i feddwl y tu allan i’r bocs. Byddwn yn sicr yn argymell gwasanaeth Richard.”

– Dr Bethan Sian Jones, Rheolwr Datblygu Prosiect Academi Heddwch

“Unwaith yn rhagor, mae Richard wedi darparu gwasanaeth trylwyr ac arbennig. Mae Richard yn gydwybodol yn ei ddull, ac yn wrandäwr da.” (parthed gwaith naratif cyhoeddus)

Dr Bethan Sian Jones, Rheolwr Datblygu Prosiect Academi Heddwch Cymru

Leave a Reply