Disgleiriwch mewn cyfweliadau teledu a radio!
Gyda fy nghyrsiau i lefarwyr cyfryngau mewn elusennau a sefydliadau nid-er-elw, gallwch fagu hyder, cyfleu eich prif negeseuon a gwarchod eich enw da.
Pam gwneud hyfforddiant cyfryngau?

Gall cyfweliadau teledu a radio fod yn heriol neu arteithiol! Ond gyda hyfforddiant addas, gallwch deimlo’n hyderus, cyfathrebu’n effeithiol a delio gydag unrhyw gwestiynau anodd.
Bydd llefarwyr sydd wedi’u hyfforddi yn eich sefydliad yn eich helpu i harneisio potensial y cyfryngau darlledu, yn ogystal â gwella a diogelu eich brand a’ch enw da.
Beth sy yn y cwrs?
Caiff pob sesiwn ei theilwra i’ch anghenion chi. Gallaf greu hyfforddiant sy’n addas i lefarwyr newydd a phobl mwy profiadol, yn Gymraeg neu Saesneg, ar lein neu yn eich swyddfa.
Fel arfer, bydd y cwrs yn cynnwys:
- Cyflwyniadau, trafodaethau ac ymarferion ‘chwarae-rôl’
- Trosolwg o gyfweliadau teledu a radio, y cyfleoedd a’r risgiau
- Sut i baratoi ar gyfer mathau gwahanol o gyfweliad, yn fyw ac wedi’u recordio
- Cyflawni’r cyfweliad – edrych a swnio’n broffesiynol, cyfleu negeseuon allweddol, delio â chwestiynau anodd
- Ar ôl y cwrs: nodiadau ac adborth personol ysgrifenedig
Pam fy newis i?
Rwy’n cynnig hyfforddiant cyfeillgar a chefnogol sy’n adeiladu eich hyder trwy heriau adeiladol. Mae pob dysgwr a sefydliad yn wahanol, felly byddaf yn gweithio gyda chi i deilwra’r hyfforddiant, gan ddilyn i fyny gydag adborth ysgrifenedig personol.
Byddwch hefyd yn elwa ar fy nau ddegawd o brofiad yn y cyfryngau a chyfathrebu yng Nghymru. Rydw i wedi gweithio ar ‘ddwy ochr y ffens’, fel gohebydd ar Newyddion ITV Cymru ac fel Pennaeth Cyfathrebu WWF Cymru, lle roeddwn i’n llefarydd rheolaidd fy hun yn ogystal â chefnogi eraill i wneud cyfweliadau.
Tysteb

“Richard gave me and colleagues excellent bespoke media training – we all came out of the session more confident and full of ideas – thank you!”
Susie Ventris-Field, Prif Weithredwr WCIA
Cysylltwch â fi
Os hoffech chi drafod eich anghenion hyfforddiant cyfryngau, neu ofyn am gwôt, cysylltwch â fi – byddwn i wrth fy modd i glywed oddi wrthoch chi.