Sicrhewch fod eich copi yn creu’r effaith iawn. Bydd hyfforddiant ysgrifennu copi yn eich helpu i ysgrifennu’n glir ac yn effeithiol.

Ar gyfer pwy?
Unrhyw un sy’n gweithio mewn elusen neu sefydliad nid-er-elw sy’n ysgrifennu i’r cyhoedd.
Pam cymryd rhan?
Mae copi gwael yn anodd ei ddarllen, ac ni chaiff yr effaith rydych chi ei heisiau. Gall dysgu sgiliau ysgrifennu copi hanfodol eich helpu i gyfleu eich neges i’ch cynulleidfa darged.
Sut mae’r hyfforddiant yn gweithio?
Byddaf yn gweithio gyda chi er mwyn adnabod unrhyw heriau a’r hyn rydych chi am ei gyflawni. Trwy sesiynau ar-lein neu wyneb yn wyneb, byddwn yn trafod yr hyn sy’n gwneud copi da, a sut i’w ysgrifennu.
Byddwn hefyd yn adolygu eich gwaith presennol a byddaf yn cynnig adborth adeiladol. Trwy ymarferion, cewch gyfle i roi eich dealltwriaeth newydd ar waith, a rhoddaf adborth ychwanegol er mwyn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau.
Pam fy newis i?
Rwy’n hyfforddwr profiadol sydd wedi cynnal gweithdai a chyrsiau i gleientiaid sy’n cynnwys Hyfforddiant NUJ Cymru, TUC Cymru a Phrifysgol Caerdydd.
Fe ddatblygais fy sgiliau ysgrifennu trwy baratoi sgriptiau newyddion i ITV Cymru Wales. Yn WWF Cymru, ysgrifennais erthyglau, datganiadau i’r wasg, cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a rhagor. Fel rhan o’m gwaith llawrydd, rwyf wedi ysgrifennu copi ar gyfer cleientiaid megis Living Streets a Cynnal Cymru – Sustain Wales.
“Roedd fy hyfforddiant gyda Richard yn ddefnyddiol tu hwnt. Helpodd fi i ddeall sut i wella fy sgiliau ysgrifennu copi a theimlo’n fwy hyderus. Roedd hi’n wych i ddysgu sut i wella ton a strwythur fy nghyfathrebu ysgrifenedig i.”
– Ffion Burgess, Swyddog Marchnata Llyfrgelloedd Awen
Eisiau gwybod rhagor am yr hyfforddiant?
Cysylltwch â fi trwy e-bost os oes gennych gwestiynau pellach, os hoffech sgwrs, neu os ydych eisiau gofyn am ddyfynbris.