
Nofio Cymru ydy’r corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer mabolgampau dŵr, sy’n cynnwys nofio, polo dŵr, para-nofio a phlymio.
Darparais hyfforddiant cyfryngau i’w staff yng ngwanwyn 2025.
Tysteb
“Cyflawnodd Richard hyfforddiant cyfryngau 1-1 ardderchog, yn ogystal â sesiynau diwrnod llawn i’n prif lefaryddion. Roedd yr hyfforddiant yn graff, atyniadol, ac wedi’i deilwra er mwyn siwtio dysgwyr gyda lefelau gwahanol o brofiad yn y cyfryngau. Roedd ei waith paratoi yn drylwyr, gyda chyfarfodydd gwerthfawr cyn y sesiynau er mwyn llunio’r cynnwys i’n hangenion. Roedd hi’n brofiad anhygoel o ddefnyddiol a phroffesiynol, a adawodd pawb yn fwy hyderus a pharod.”