Os rydych chi’n gweithio mewn elusen neu sefydliad nid-er-elw, byddwn wrth fy modd i’ch helpu wrth gasglu a rhannu eich straeon, a chysylltu â’ch cynulleidfaoedd.
Mae ysbrydoli pobl gyda straeon go iawn yn bwysig i fi, ac rwy’n credu mewn bod yn strategol.
Rwy’n gweithio yn Gymraeg a Saesneg, gyda ffowcs ar tri maes:
Hyfforddiant
Gyda dros dau ddegawd ym maes y cyfryngau a chyfathrebu, rwy’n gallu eich helpu i ddatblygu sgiliau’ch tîm chi, trwy:
- Hyfforddiant cyfryngau i baratoi eich llafurwyr ar gyfer cyfweliadau
- Hyfforddiant cysylltiadau â’r cyfryngau, wedi’i ddylunio i helpu cyfathrebwyr i ennill sylw effeithiol
- Gweithdai negeseuon ar gyfer naratifau ymgyrchoedd neu sefydliadol
- Hyfforddiant ysgrifennu copi i’ch helpu i greu testun hygyrch ac effeithiol ar gyfer y cyhoedd
Cynnwys

Rwy’n gallu eich helpu chi i gael effaith gyda fy ngwasanaethau cynnwys, astudiaethau achos ac ysgrifennu copi.
Er enghraifft, gallai hynny olygu creu cynnwys ar gyfer eich gwefan, neu eich helpu chi i ddechrau podlediad gyda chyfranwyr fydd yn ysbrydoli pobl eraill.
Efallai eich bod chi angen rhywun all ysgrifennu erthyglau, blogiau, adroddiadau neu gyhoeddiadau i gefnogwyr? Rwy’n gallu defnyddio fy mhrofiad teledu er mwyn creu fideos ar gyfer eich cyfryngau cymdeithasol hefyd.
Strategaeth
Ddim yn siwr sut i gyfathrebu yn eich prosiect neu sefydliad? Cael trafferth wrth esbonio eich gwaith ag ymgysylltu â’r cyhoedd neu wleidyddion?
Trwy ymchwil, trafod a hwyluso, galla i dod â ffocws i’ch gwaith, datblygu negeseuon clir, a chynllunio ffordd ymlaen.
Er enghraifft, gallwn gynnal archwiliad cyfathrebu fel hyn, ac adrodd yn ôl gydag argymhellion. Neu efallai gallwn ddod â’ch tîm at ei gilydd ar gyfer gweithdy er mwyn creu strategaeth neu negeseuon newydd.
Beth am sgwrs?
Os oes gennych chi syniad, neu her, y hoffech ei drafod, cysylltwch â fi.