
Mae Gofalwyr Cymru / Carers Wales yn rhan o Carers UK, yr elusen genedlaethol flaenllaw ar gyfer gofalwyr di-dal.
Mae hi’n cefnogi, cynrychioli a chysylltu gofalwyr ar draws y DU.
Cynhaliais i sesiwn hyfforddiant cyfryngau i staff yn haf 2025.
Tysteb
“Roedd yr hyfforddiant llefarydd cyfryngau gyda Richard yn ardderchog. Teimlais yn hollol gyfforddus o’r dechrau, ac roedd y cyflwyniad dwyieithog yn Gymraeg ac yn Saesneg yn ychwanegu at ei hygyrchedd. Llwyddodd Richard i daro’r cydbwysedd perffaith rhwng bod yn broffesiynol ac yn brofiadol iawn, ond hefyd yn gynnes ac yn gyfeillgar drwy gydol y sesiwn. Cefais fwy o hyder o ganlyniad.”
Joanne Carter, Gofalwyr Cymru.