
Mae’r DEC (Disasters Emergency Committee) yn dod â 15 o’r prif elusennau cymorth at eu gilydd er mwyn codi arian yn gyflym ar adegau o argyfwng tramor. Mae’n hollbwysig, felly, bod yr elusen yn cyfathrebu’n effeithiol trwy’r cyfryngau.
Fe redais i hyfforddiant cyfryngau 1:1 i aelod o staff DEC, trwy gyfrwng y Gymraeg. Sesiwn hanner dydd oedd hi, yn cynnwys cyflwyniadau, trafodaethau ac ymarferion ‘chwarae-rôl’. Ar ôl yr hyfforddiant, anfonais i adborth ysgrifenedig.
Tysteb
“Roedd y sesiwn gyda Richard yn help enfawr o ran deall y gwahanol fathau o gyfweliadau y gallai fod angen i ni wneud yn ystod apêl. Gadawais i’r sesiwn yn teimlo llawer yn fwy hyderus ynglŷn â sut i baratoi yn effeithiol. Roedd gallu ymarfer gyda chyfweliadau ffug – yn y Gymraeg a’r Saesneg – yn fonws ychwanegol. Dwi’n siŵr y byddaf yn dychwelyd i’m nodiadau dro ar ôl tro!”
Siân Stephen, Rheolwr Cysylltiadau Allanol (Cymru), DEC – Disasters Emergency Committee