
Mae Cymru Masnach Deg yn cefnogi, tyfu a hyrwyddo’r mudiad Masnach Deg yng Nghymru.
Ers 2009, mae hi wedi ymgyrchu dros hawliau ffermwyr a chynhyrchwyr mewn gwledydd incwm isel a chanolig, sydd fel arfer yn cael eu talu’n wael ac yn byw gydag effeithiau newid hinsawdd.
Cynhaliais sesiwn hyfforddiant cyfryngau undydd yng Nghaerdydd i’r elusen ym mis Ebrill 2023. Roedd hyn yn cynnwys cyflwyniadau, trafodaethau ac ymarferion ‘chwarae-rôl’ yn y Gymraeg a Saesneg. Ar ôl yr hyfforddiant, anfonais adborth unigol at y dysgwyr.
Tysteb
“…Cawson ddiwrnod arbennig o dda, roedd yn braf gwneud rhywbeth fel tîm ac roedd yr hyfforddiant yn ddefnyddiol iawn o ran magu hyder. Roedd arbenigedd a hyblygrwydd Richard yn wych, ac roedd hi’n fendigedig i gael hyfforddiant wedi’i deilwra i themâu a phynciau Masnach Deg…”
Aileen Burmeister – Pennaeth Cymru Masnach Deg