
Edrychais i ar y cloc bore ‘ma a sylweddoli bod hi’n ddwy flynedd ers i fi adael fy swydd i fynd yn llawrydd.
Ble mae’r amser wedi mynd?!
Mae hi wedi bod yn brofiad gwych, er gwaetha’r heriau anochel. Mae’r hyblygrwydd a’r cyfle i wneud gwaith mor ddiddorol gyda phobl hyfryd wedi bod yn fraint.
Dwi wedi llwyddo dod o hyd o’r math o gleientiaid ro’n i eisiau eu cefnogi – elusennau a sefydliadau nid-er-elw – ac mae hi wedi bod yn dda i cyfrannu at eu gwaith pwysig nhw. Diolch i fy holl gleientiaid am y cyfle i wneud y gwaith, a’r adborth caredig, a diolch hefyd i fy nheulu, a phawb sydd wedi cynnig cyngor a chefnogaeth.
Roedd fy mlwyddyn gyntaf yn her arbennig oherwydd y pandemig, ond ers hynny mae’n teimlo bod pethau wedi dechrau sefydlogi. Wrth gwrs mae’r bywyd ffrîlans yn rollercoaster gyda chyfnodau prysur pan dych chi’n gorfod pasio cyfleoedd i bobl eraill, a chyfnodau tawelach sy’n gyfle i ddelio gyda’r ardd neu llanast y tŷ!
Newid fy ffocws
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, dwi wedi datblygu syniad gwell o anghenion fy nghleientiaid, fy nghryfderau, a’r hyn rwy’n hoffi ei wneud y mwyaf. Fel canlyniad, rwy’n canolbwyntio ar waith cynnwys, strategaeth ac hyfforddiant erbyn hyn. Beth mae hyn yn ei feddwl? Dyma rhai enghreifftiau:
Cynnwys: creu podlediadau fel y prosiect yma gyda Hub Cymru Africa, neu ysgrifennu copi, creu tudalennau gwe a gwaith fideo megis fy ngwaith i Living Streets
Strategaeth: Rhedeg archwiliad cyfathrebu fel yr un Cycling UK Cymru neu Celfyddydau Anabledd Cymru, neu weithio gyda thîm Cynnal Cymru i creu naratif ar gyfer y sefydliad
Hyfforddiant: Sesiynau ar sicrhau sylw yn y cyfryngau darlledu i Hyfforddiant NUJ Cymru, rhedeg cyrsiau i TUC Cymru ar ddatblygu astudiaethau achos
Rwy’n edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf – cysylltwch â fi os hoffech chi sgwrs dros Zoom neu dros goffi.