Podlediad Hefyd – Pennod 11, Grant Peisley

Grant yn pwyntio ar dwrbin gwynt
Grant Peisley gyda thwrbin gwynt

Y mis yma rydyn ni’n clywed stori siaradwr Cymraeg o Awstralia, sy’n byw yng Ngogledd-Orllewin Cymru erbyn hyn.

Mae Grant Peisley wedi cyfrannu’n fawr at gymunedau Cymreig – nid yn unig trwy ddysgu’r iaith, ond hefyd trwy prosiectau cymdeithasol ac amgylcheddol.

Yn ein sgwrs, rydyn ni’n trafod sut ddechreuodd e ddysgu Cymraeg yn Awstralia, symud i Gymru, a’r heriau o ddysgu a defnyddio’r iaith yn nhafarndai ardal Caernarfon!

Grant gyda'i deulu o dan
Grant gyda’i deulu yn Awstralia o dan coed palmwydd

Mae Grant yn esbonio’r gwaith mae e’n gwneud i ddatblygu ynni gwyrdd a chreu tafarn cymunedol, a’r pwysicrwydd o’r Gymraeg yn ei waith mewn cymunedau.

Wrth gwrs, mae’r pandemig wedi bod yn ofnadwy i bobl fel grant sydd wedi colli cyfleoedd i weld teulu yn Awstralia, ac mae e hefyd yn son am hynny a’r pethau a phobl mae e’n gweld eu heisiau nhw.

Prosiect tafarn cymunedol Ty’n Llan, Llandwrog

Linciau

DEG (Datblygiadau Egni Gwledig) – Menter gymdeithasol sy’n cefnogi gweithredu cymunedol ar hyd a lled gogledd orllewin Cymru.

GwyrddNi – mudiad gweithredu ar newid hinsawdd sy’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd.

YnNi Teg – Prosiect ynni cymunedol gyda tyrbin gwynt ger Caerfyrddin

Ynni Newydd – cynllun fferm solar Bretton Hall, Sir y Fflint

Tafarn Cymunedol Ty’n Llan

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s