Podlediad Hefyd – Pennod 26, Daniel Minty

Mae Daniel Minty yn dod o Abertyleri yn nghymoedd de-ddwyrain Cymru ac mae e’n ffan mawr o fiwsig Cymraeg.

Trwy’r sîn gerddorol a darlledu wnaeth e ddechrau dysgu’r iaith. Dechreuodd e Minty’s Gig Guide er mwyn rhannu gwybodaeth am ddigwyddiadau yng Nghaerdydd.

Mae e wedi bod yn rhan o Wyl Sŵn yng Nghaerdydd ac wedi gweithio gyda BBC Cymru a Gorwelion/Horizons.

Pan recordion ni ein sgwrs ym mis Hydref 2024, roedd Daniel yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg mewn swydd gyda Menter Casnewydd.

Ac ers i ni recordio mae e wedi newid swydd, ac heddiw (15 Medi 2025) mae e’n gweithio gyda Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy.


Eisiau dysgu sgil newydd?

Diolch i’r Sefydliad Dysgu a Gwaith am awgrymu Daniel. Ennillodd wobr ‘Dechrau Arni: Dysgwr Cymraeg’ yn y Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion.

Rwy’n cyhoeddi’r podlediad yma yn ystod Wythnos Addysg Oedolion (15-21 Medi 2025). Mae’r ymgyrch yn cael ei gydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.

Os hoffech chi ddysgu sgil newydd ym mis Medi mae eu gwefan nhw yn cynnig adnoddau am ddim ar addysg yn cynnwys cyrsiau, sesiynau tiwtorial a digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Leave a Reply

Discover more from Richard Nosworthy - Arbenigwr Cyfathrebu Llawrydd, Caerdydd

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading