Eisiau gwella’ch effaith gyda’r cyhoedd a gwleidyddion? Ymunwch ag un o’m cyrsiau byr, neu trefnwch hyfforddiant i’ch hunan neu’ch tîm.
Rwy’n arbenigo mewn gweithio gyda sefydliadau cyhoeddus a 3ydd sector yng Nghymru. Dyma’r hyn rwy’n cynnig yn ystod hydref 2025.

Cyrsiau byr
Rwy’n rhedeg y cyrsiau 1-awr, arlein hyn gyda Hyfforddiant NUJ Cymru.
Dydd Gwener 3 Hydref 2025 – Y Datganiad Perffaith i’r Wasg
Mae datganiad i’r wasg da yn rhan pwysig o ddenu diddordeb newyddiadurwyr ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Yn y cwrs byr hwn, byddaf yn esbonio’r hyn mae’n cymryd i roi datganiad gwych at ei gilydd.
Dydd Gwener 24 Hydref 2025 – Write the perfect press release
Fersiwn Saesneg o’r cwrs uchod.
Dydd Gwener 21 Tachwedd 2025 – Cryfhau eich proffeil yn y cyfryngau…
Ydych chi’n ei chael hi’n anodd cael y sylw rydych chi ei eisiau yn y cyfryngau? Yn y cwrs hwn, byddwch yn darganfod sut i weithio’n effeithiol gyda gohebwyr i gael canlyniadau gwell.
Dydd Gwener 5 Rhagfyr 2025 – Boost Your Media Coverage with Better Journalist Relationships
Fersiwn Saesneg o’r cwrs uchod.
Hyfforddiant cyfathrebu grŵp ac 1:1
Cysylltwch â fi er mwyn trefnu sesiwn i’ch hunain neu’ch cydweithwyr. Rwy’n cynnig:
Hyfforddiant cyfweliadau cyfryngau – Gyda’m profiad fel newyddiadurwr darlledu, rheolwr cyfathrebu a llefarydd dros elusen, byddaf yn eich helpu chi a’ch tîm i deimlo’n hyderus a pherfformio’n dda mewn cyfweliadau darlledu.
Hyfforddiant Cysylltiadau â’r Cyfryngau – Mae ennill sylw yn y cyfryngau yn ffordd bwerus a chost-effeithiol i gyrraedd llawer o bobl. Yn y cwrs yma, byddwch yn datblygu sgiliau i werthu’ch stori a delio gyda newyddiadurwyr.
Hyfforddiant Ysgrifennu Copi – Sicrhewch fod eich copi yn creu’r effaith iawn. Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ysgrifennu’n glir ac yn effeithiol.
Peidiwch â cholli cyfleoedd!
I gael y diweddaraf am fy hyfforddiant, cyngor, adnoddau a manylion swyddi, tanysgrifiwch i’r Cylchlythyr Cyfathrebu…
Eisiau sgwrs? Mwy o gwestiynau? Anfonwch ebost.
[…] Posted on September 29, 2025September 29, 2025 by Richard Nosworthy eisiau darllen hwn yn gymraeg? […]