Mae Ofcom newydd cyhoeddi ‘Cyfryngau’r Genedl – Cymru 2025‘. Mae’n paentio darlun diddorol tu hwnt o sut mae pobl Cymru yn derbyn newyddion a gwybodaeth, ac o dirwedd cyfryngau sy’n newid. Dyma rhai o’r prif bwyntiau.
Mae BBC1 yn colli ei safle fel prif ffynhonnell newyddion Cymreig
Pan ofynnwyd ‘O ba un o’r ffynonellau canlynol rydych chi’n cael newyddion am yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru y dyddiau hyn?’, mae BBC1 ar y frig o hyd gyda 27%. Ond mae’r nifer yma wedi bod yn gostwng ers y pandemig (dros 45% yn 2022).
Mae ITV Cymru wedi dal ei safle’n well, yn ail ar 25%.

Roedd gostyngiad hefyd i wefan/ap y BBC. Mae ‘unrhyw wefan/ap yng Nghymru (fel Nation.Cymru neu Wales Online) wedi dal eu tir.
Beth mae hyn yn ei olygu i gyfathrebwyr? Wel, er gwaethaf y ffigurau, mae’r BBC, yn enwedig ei newyddion teledu, yn dal i ddominyddu o ran cyrhaeddiad. Mae cysylltu â’r cyfryngau a’r gallu i ddefnyddio sylw yn y cyfryngau darlledu yn debygol i fod yn sgiliau cyfathrebu handfodol am beth amser eto.
Wedi dweud hynny, mae’r tirwedd cyfathrebu yn darnio. Mae’n bwysicach nag erioed i adnabod eich cynulleidfaoedd targed a deall sut maen nhw’n dilyn y newyddion. Gall ffynnonellau bach (fel cylchlythyr/podlediad Will Hayward a Golwg) fod yn ffordd effeithiol i gyrraedd grwpiau penodol. A pwy a wyr, gydag etholiad i’r Senedd yn 2026, efallai bydd mwy o gyfleoedd i ennill sylw am straeon Cymreig yn nghyfryngau’r DU?
Radio Cymru’n i’r ifainc, Radio Wales i’r henoed?

Dydy ffigurau gwrando BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales ddim wedi newid llawer. Ond yr hyn sydd yn ddiddorol ydy pwy sy’n gwrando.
Er bod gwrandawyr Radio Wales yn hen (ac yn heneiddio), y gwrthwyneb sy’n wir am Radio Cymru:
“Yn Ch1 2024, roedd mwy na phedwar o bob deg (46%) o wrandawyr BBC Radio
Cymru dros 65 oed, ond gostyngodd hyn i dri o bob deg (31%) yn Ch1 2025. Yn yr un cyfnod, roedd cyfran y gwrandawyr 15-24 oed bron bedair gwaith yn fwy, gan godi o 3% i 11%.
Mae’r gwrthwyneb yn wir am gynulleidfa BBC Radio Wales, lle roedd ychydig dros ddwy ran o dair (67%) o’i gwrandawyr dros 65 oed yn Ch1 2024, ac ychydig o dan dri chwarter (73%) yn Ch1 2025.
Mae’r newid hwn yn cael ei adlewyrchu yn oedran gwrando cyfartalog yr orsaf; mae cyfartaledd gwrandawyr BBC Radio Cymru bellach yn 52 oed (i lawr o 58 yn Ch1 2024) ac mae cyfartaledd gwrandawyr BBC Radio Wales yn 61 oed (i fyny o 60 oed yn Ch1 2024).”
Mae hyn yn edrych fel llwyddiant mawr i Radio Cymru. Rwy’n credu mai sefydlu Radio Cymru 2 sydd o leiaf yn rhannol cyfrifol am hyn (mae’r ffigurau yn cael eu cyfuno gyda Radio Cymru). Maen nhw wedi llwyddo denu gwrandawyr iau ac mae hwn yn newyddion da oherwydd eu bod nhw’n gwasanaethu ystod ehangach o bobl.
Ar y llaw arall, mae’r ffaith mae pob sydd wedi ymddeol, yn bennaf, sy’n gwrando ar ein hunig gorsaf genedlaethol yn Saesneg yn siomedig. Dylai Radio Wales edrych ar lwyddiant eu cydweithwyr ar yr ochr Gymraeg.
Beth mae hyn yn ei olygu i gyfathrebwyr? Mae’r ddwy orsaf yn ddefnyddiol o ran dylanwadu ar wleidyddion – beth bynnag eu hoedran. Os dych chi’n targedu’r cyhoedd, ystyriwch y proffeil oedran.
Mae pumed ohonon ni’n gwrando ar bodlediadau bob wythnos

19.4% o’r boblogaeth sy’n gwrando ar boblediad bob wythnos – twf mawr mewn amser byr. Dim ond 11% oedd y ffigwr yn 2019.
Ac er bod hyn ychydig yn llai na’r cyfartaledd ar draws y DU (22.4%), mae hi wedi tyfu’n gyson (gyda’r eithriad o 2024).
Er nad oes llawer mwy o fanylion am Gymru, mae adroddiad DU Ofcom yn rhoi syniad:
- Mae gwrandawyr yn fwy debygol i fod yn oedolion ifanc neu ganol oed, mewn grwpiau economaidd ABC1
- Ar gyfartaledd, mae gwrandawr podlediadau yn dilyn neu’n tanysgrifio i chwech podlediad ac yn gwrando ar bump pennod bob wythnos
- Yn ôl Edison Podcast Metric, mae bron dau draean o wrandawyr podlediadau (64%) yn treulio mwy na tair awr bob wythnos yn gwrando arnyn nhw
- Mae tri allan o bump (60%) o wrandawyr podlediadau yn dweud bod nhw’n treulio mwy o amser yn gwrando arnyn nhw nawr nag yr oedden nhw blwyddyn yn ôl
- Yn ôl data IPA Touchpoints, mae’r rhan fwyaf o amser mae pobl yn treulio yn gwrando ar bodlediadau yn gwrando ar rai annibynnol h.y. nid y rhai sy’n gysylltiedig â gorsafoedd radio, papurau newydd neu gylchgronau
- Y prif categorïau ar draws y grwpiau oedran ydy gwleidyddiaeth, newyddion a materion cyfoes, ond mae’r rhain yn fwy poblogaidd ymhlith gwrandawyr hŷn.
Beth mae hyn yn ei olygu i gyfathrebwyr:
Gofynnwch:
- Ydy hi’n amser i ystyried creu podlediad i’ch sefydliad?
- Oes cyfleoedd i fod yn ngwestai ar bodlediad?
Mae podlediadau yn ffordd effeithiol iawn o greu cysylltiadau dwfn gyda chynulleidfaoedd, a thrafod pynciau’n fanwl.
Gan bod ni’n gwybod bod y gynulleidfa’n tyfu dros y blynyddoedd, rwy’n hyderus bod dyfodol cadarn mewn podlediadau, a nid ‘swigen’ yn unig ydy hi.
Bonws: Dim ond lleiafrif sy’n meddwl bod Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus yn cynrychioli Cymru’n dda ar y teledu

Er nad ydy hwn mor berthnasol i’ch gwaith cyfathrebu chi, rwy’n credu bod hwn yn bwysig o ran dyfodol, diwylliant a democratiaeth Cymru.
Mae bodlondeb gyda Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus (PSBs) wedi aros yn dda yn gyffredinol, ond nid ydy pethau mor ffafriol o ran cynrychiolaeth Cymru.
Yn ôl Public Service Media (PSM) Tracker Ofcom 2024, yng Nghymru mae 62% o wylwyr PSBs yn fodlon gyda nhw yn gyffredinol, gyda 8% yn anfodlon.
Ond dyma’r newyddion drwg.
Yn yr arolwg, gofynnwyd:
“Gan feddwl am y canlynol gyda’i gilydd [sianeli teledu’r BBC / sianeli teledu ITV Cymru ac ITV / sianeli teledu Channel 4 / sianeli teledu Channel 5 / S4C] ar raddfa o 1 i 10, lle mae 1 yn golygu gwael dros ben a 10 yn golygu da dros ben, pa mor dda neu wael fyddech chi’n dweud eu bod yn darparu…?”
Wrth edrych faint o bobl oedd yn meddwl eu bod nhw’n gwneud yn ‘dda’ ar ffactorau amrywiol (7/10 a mwy), ymhlith y categorïau gwaethaf oedd
- Rhaglenni sy’n cynnwys Cymru (47%)
- Rhaglenni sy’n cynnwys pobl fel fi (46%)
Mewn geiriau eraill, dim ond lleiafrif sy’n meddwl eu bod nhw’n gwneud yn dda ar y pethau yma.
Mae hwn yn destun pryder. Dylai’r darlledwyr fod yn gwneud yn well o ran adlewyrchu Cymru a’i phobl ar y sgrîn.
Casgliadau
Mae’r ffigurau yma’n fwy o dystiolaeth am y ffordd mae’r cyfryngau yng Nghymru yn darnio. Mae pobl gwahanol yn cael gwybodaeth mewn ffyrdd gwahanol, ac mae poblogrwydd platfformau’n newid o hyd.
I gyfathrebwyr, mae’n bwysicach nag erioed i fod yn glir am eich cynulleidfaoedd targed a sut i’w cyrraedd. Er mwyn rhannu straeon yn effeithiol, mae’n rhaid mynd tu hwnt i anfon datganiadau i’r wasg allan a gobeithio am y gorau.
Beth dych chi’n meddwl am hyn i gyd? Rhowch wybod i fi yn y sylwadau. Ac os mae’r blogiad wedi bod yn ddefnyddiol, beth am danysgrifio i Cylchlythyr Cyfathrebu Cymru er mwyn derbyn cyngor, cynigion, cyfleoedd swyddi, digwyddiadau ac adnoddau?
[…] Posted on September 11, 2025September 11, 2025 by Richard Nosworthy Darllennwch yn gymraeg […]