
“Sai’n siŵr os dwi’n ddigon da yn y Gymraeg”. Mae’n deimlad cyffredin ymhlith pobl sy’n cael eu gofyn i wneud cyfweliadau â’r cyfryngau darlledu – yn arbennig y rhai sy ddim yn ei siarad hi fel iaith gyntaf. Ond rwy’n gwybod o’m sesiynau hyfforddiant cyfryngau y gallwch chi gyfleu’ch negeseuon chi’n glir ac yn hyderus, gyda’r dull cywir. Dyma rai awgrymiadau…
1. Cynllunio a gosod disgwyliadau
Rheol gyffredinol ar gyfer pob cyfweliad: peidiwch â chymryd rhan oni bai bod chi’n hyderus y gallwch chi berfformio’n dda a bydd e’n fuddiol.
Dylech chi wirio manylion y cais am gyfweliad, a thrafod/newid os oes angen (er enghraifft yr amser, lleoliad, meysydd holi, rhag-recordiad vs byw).
Mae’r gallu yn y Gymraeg yn rhan o’r ffordd hon o feddwl. Meddyliwch am:
- Pwy yw’r person iawn i wneud y cyfweliad hwn?
- Oes ganddyn nhw’r sgiliau iaith cywir i’w wneud e’n dda?
- Allwn ni / ddylen ni addasu’r cyfweliad i gyfrif am lefel eu Cymraeg nhw?
Mae hyn yn fwyaf perthnasol i ddysgwyr Cymraeg neu’r rhai llai hyderus yn yr iaith. Er enghraifft, efallai nad yw dysgwr wedi cyrraedd y safon sydd ei hangen ar gyfer cyfweliad hir a heriol eto – ond efallai byddan nhw’n gallu darparu ‘clip’ byr wedi’u recordio ymlaen llaw ar bwnc cyfarwydd.
Mae newyddiadurwyr Cymraeg fel arfer yn hyblyg ac yn gefnogol. Peidiwch â bod ofn trafod y materion hyn gyda nhw.
2. Defnyddiwch y Gymraeg sy gyda chi’n barod

Mae’n gyffredin i weld pobl yn stryglo mewn cyfweliadau Cymraeg oherwydd eu bod nhw’n trio siarad yn yr un ffordd a’r datganiad i’r wasg neu adroddiad Saesneg.
Felly defnyddiwch y geiriau sy’n naturiol i chi, yn hytrach na chael problemau gyda thermau ffurfiol neu dechnegol, neu dafodiaith anghyfarwydd.
Dydy hyn ddim yn meddwl newid y neges sylfaenol – ond yn hytrach, esbonio’r ymgyrch neu bolisi mewn Cymraeg naturiol, bob-dydd.
Fel arfer, does dim digon o amser i ddysgu geirfa newydd cyn cyfweliad, felly symleiddiwch (sy’n ymarfer da beth bynnag) neu defnyddiwch air Saesneg os oes angen. A dweud y gwir, os dych chi’n ffeindio gair yn anodd, mae’n annhebygol bydd pobl eraill yn ei ddeall e chwaith.
Os dych chi’n dysgu Cymraeg, mae’n debygol byddwch chi’n swnio’n well os dych chi’n defnyddio geiriau a phatrymau cyfarwydd, yn hytrach nag ymestyn eich hun yn y cyfweliad.
3. Gwella’ch sgiliau
Mae angen ymarfer er mwyn gwneud cyfweliadau cyfryngau’n dda. Ac efallai bod hynny’n bwysicach yn y Gymraeg, os dych chi’n defnyddio’r iaith yn fwy aml tu allan i’r gweithle.
Chwiliwch am gyfleoedd i wella’ch sgiliau chi. Nid mewn cyfweliadau yn unig, er bod hynny’n bwysig, ond gallwch chi ystyried:
- Fideos ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol
- Bod yn westai ar bodlediad
- Gwneud cyfweliad i fyfyrwyr sy’n astudio newyddiaduraeth
- Adolygu’r papurau ar Radio Cymru
Allech chi hefyd ffeindio ffyrdd i siarad Cymraeg yn fwy aml yn y gwaith, er mwyn magu hyder wrth drafod pynciau proffesiynol?
Mwy o gymorth: hyfforddiant cyfryngau dwyieithog
Mae hyfforddiant cyfryngau yn hanfodol mewn unrhyw sefydliad, er mwyn cael y gorau allan o’r cyfweliadau ac amddiffyn eich enw da.
Rwy’n cynnig sesiynau hyfforddiant cyfryngau dwyieithog yn y Gymraeg a/neu Saesneg ar gyfer elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus / nid-er-elw, yng Nghaerdydd ac ar draws Cymru. Cysylltwch â fi er mwyn cael mwy o wybodaeth.
[…] on September 17, 2024 by Richard Nosworthy darllennwch yn gymraeg For some people, doing a media interview in Welsh brings an extra challenge. Photo by cottonbro […]