Mae Podlediad Hefyd yn dod yn ôl! Rwy’n chwilio am bobl sy’n dysgu (neu wedi dysgu) Cymraeg i safon da i gymryd rhan. Oes stori da gyda chi i’w rhannu?

Beth ydy Podlediad Hefyd?
Dechreuais i Bodlediad Hefyd yn 2021. Ro’n i wedi dysgu Cymraeg fy hun, ac ro’n i’n teimlo bod potensial i rannu straeon siaradwyr newydd er mwyn ysbrydoli dysgwyr, magu hyder, a darparu cynnwys diddorol i bawb sy’n deall y Gymraeg.
Dros dwy flynedd, siaradais i gyda dros 20 o bobl o gefndiroedd amrywiol – pobl o Frasil, y UDA, Canada, Malta, Lloegr, yr Almaen, Iwerddon…a Chymru wrth gwrs! Roedd hi’n wych i glywed pam ddechreuon nhw ddysgu, cyfrinachau eu llwyddiant, y heriau, a sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd.
Erbyn 2023, ro’n i’n teimlo bod angen saib arna i. Mae’r podlediad yn cymryd llawer o amser ac egni. Ond ro’n i’n gwybod fy mod i’n debygol i ail-ddechrau rhywbryd.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Mae’n fis Medi 2024 ac, er nad ydw i wedi cyhoeddi pennod ers blwyddyn a hanner, mae cannoedd o islwythiadau o’r hen benodau bob mis. Mae’n teimlo bod y galw yn bodoli o hyd, ac dwi’n teimlo’n barod i ail-gychwyn.
Ond dwi’n mynd i wneud pethau’n wahanol y tro yma.
Yn hytrach na thrio cyhoeddi pennod bob mis yn barhaol, byddai’n creu cyfres o 6 pennod o flaen llaw, a’u cyhoeddi nhw. Bydd hyn yn haws i fi ffitio’r gwaith o gwmpas pethau eraill, a gobeithio bydd y profiad yn well ac yn fwy cynaliadwy i bawb sy’n gwrando neu gymryd rhan. Os mae’r gyfres nesaf yn llwyddiant, rwy’n debygol i gynhyrchu un arall.
Y bwriad ydy cynllunio a recordio’r 6 pennod yn ystod hydref 2024, a’u cyhoeddi ddechrau 2025.
Cymerwch ran!
Eisiau cael eich ystyried i fod yn westai yn y gyfres nesaf? Mae’n rhaid i chi fod yn:
- Oedolyn (18+) sydd wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn
- Siaradwr eitha rhugl, ond does dim rhaid i chi fod yn berffaith – Cymraeg digon da i gynnal sgwrs am 20 munud.
- Rhywun gyda chefndir/stori diddorol – beth sy’n eich gwneud chi’n wahanol?
- Rhywun sy’n defnyddio’r iaith yn rheolaidd
- Fodlon rhannu eich stori, a lluniau ohonoch chi, yn gyhoeddus ar y podlediad ac ar y we/cyfryngau etc.
Os mae hwn o ddiddordeb, anfonwch ebost ataf gyda manylion bras am sut a pham dych chi wedi dysgu Cymraeg.
Byddai’n trefnu sgwrs cynllunio cyn recordio unhryw beth, a byddai’n defnyddio eich data chi o fewn termau fy mholisi preifatrwydd.
Ebostiwch: helo@richardnosworthy.cymru erbyn 30/9/2024
Sut i wrando
Er mwyn sicrhau eich bod chi’n clywed y penodau newydd, tanysgrifiwch i’r podlediad ar eich hoff ap chi – ar Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Pocket Casts ac apiau eraill.
A dilynwch Podlediad Hefyd ar Mastodon er mwyn dilyn diweddariadau a chyfrannu at y sgwrs.
[…] Posted on September 9, 2024September 9, 2024 by Richard Nosworthy darllennwch yn gymraeg […]