Ydy elusennau’n dibynnu gormod ar y cyfryngau cymdeithasol? Cyfle i ddweud eich dweud.

Gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn ffordd wych i elusennau greu cysylltiadau. Ond mae’r algorithmau a natur masnachol y prif blatfformau yn gosod heriau. Ddylen ni fod yn edrych ar opsiynau amgen?

Llun gan Polina Tankilevitch ar Pexels

Gyda’r drafodaeth danbaid am X a Bluesky yn ddiweddar, i fi, mae hyn yn codi cwestiynau ehangach am y prif safleoedd cyfryngau cymdeithasol a sut rydyn ni’n cyfathrebu.

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn cynnig llawer o declynnau gwych, ac maen nhw’n ffordd hygyrch i elusennau adeiladau cynulleidfa. Ond pa mor cynaliadwy ydy ffocysu ar y pltafformau yma?

Ydyn ni’n esgeuluso gwefannau, ebost a’r cyfryngau ‘traddodiadol’? Ddylen ni gynnal mwy o ddigwyddiadau, creu podlediadau a threfnu cwrdd wyneb yn wyneb? Ydy opsiynau heb algorithmau fel Mastodon yn bwysig?

Hoffwn i glywed eich barn. Er enghraifft…

  • Sut mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ffitio mewn i’ch strategaeth gyfathrebu?
  • Ydy algorithmau cynfryngau cymdeithasol yn creu problemau i’ch elusen chi?
  • Sut dych chi’n trio eu goresgyn nhw?
  • Ydych chi’n poeni am fuddsoddi amser ac amser mewn cyfryngau cymdeithasol yn y pen draw?
  • Pa ddulliau cyfathrebu eraill sy’n gweithio i chi?
  • Beth ydy’r manteision ac anfanteision o gyfathrebu ‘traddodiadol’ fel y cyfryngau, cylchlythyrau ebost, gwefannau, cyhoeddiadau neu ddigwyddiadau?

Rhannwch eich barn isod, anfonwch ebost, neu atebwch/anfonwch DM ar LinkedIn. Bydd eich sylwadau yn cyfrannu at flogiad rwy’n ysgrifennu i CharityComms, yn ogystal â’m cyrsiau, felly gobeithio bydd hyn yn helpu pobl eraill yn y sector.

Diolch yn fawr.

(Bydd eich data yn cael eu defnyddio yn unol â’m polisi preifatrwydd.)

Gadael Ymateb