Mis Medi ydy fy hoff fis i! Y teimlad ‘nôl-i’r-ysgol’ a’r cyfle i ddechrau o’r newydd. Manteisiwch ar y cyfle yma trwy wella sgiliau eich tîm chi – dyma rhai o’r cyrsiau dwi’n cynnig…

13 Medi 2024: Fast Skills Fridays – Write The Perfect Press Release
Cwrs un awr, ar-lein, trwy Hyfforddiant NUJ Cymru – sicrhewch sylw gwell gyda datganiadau sy’n bachu sylw newyddiadurwyr.
(Sesiwn Saesneg ydy hon ac mae’r sesiwn Gymraeg ar 4 Hydref – gweler isod)
27 Medi 2024: Fast Skills Fridays – Boost Your Media Coverage With Better Journalist Relationships
Stryglo i gysylltu â newyddiadurwyr a gwerthu’ch stori chi? Dyma’r cwrs i chi. Sesiwn un awr trwy Hyfforddiant NUJ Cymru.
4 Hydref 2024 – Sgiliau Cyflym: Datganiad i’r Wasg
Sicrhewch sylw gyda datganiad fydd yn bachu sylw newyddiadurwyr. Cwrs un awr, ar-lein, trwy Hyfforddiant NUJ Cymru.
(Cwrs cyfrwng Cymraeg – mae sesiwn Saesneg ar 13 Medi – gweler uchod)
Ar alw: Hyfforddiant Cyfryngau
Sicrhewch bod eich tîm chi’n perfformio’n dda mewn cyfweliadau cyfryngau darlledu. Hybwch eich sgiliau a hyder ac amddiffynnwch eich enw da gyda fy sesiynau hyfforddiant cyfryngau un dydd. Cyrsiau yn Gymraeg a/neu Saesneg, wedi’u teilwra ar gyfer elusennau a sefydliadau nid-er-elw.
Ar alw: Hyfforddiant Ysgrifennu Copi
Sicrhewch fod eich copi yn creu’r effaith iawn. Bydd hyfforddiant ysgrifennu copi yn eich helpu i ysgrifennu’n glir ac yn effeithiol.