Hyfforddiant cyfryngau: sut i wneud eich cyfweliadau chi’n fwy effeithiol

‘Oes ots ‘da chi?’ Cwestiwn sy’n profi os mae eich cyfweliad cyfryngau chi’n gweithio. Ond pa mor aml ‘dyn ni’n colli diddordeb tra ein bod ni’n gwylio neu wrando? Gallwn ni gael mwy o effaith trwy apelio at emosiynau a phrofiadau dynol.

Os dych chi’n gweithio i elusen neu sefydliad nid-er-elw, mae’n debygol bod chi’n teimlo’n gryf am y materion dych chi’n gweithio arnyn nhw, a hefyd gwybod eitha’ lot am y pwnc. Ond pan wnewch chi gyfweliad cyfryngau, cofiwch y bydd llawer o’r gynulleidfa yn gwybod braidd dim am y pwnc.

Rhowch eich hunan yn eu lle nhw

Meddyliwch am y bobl sy’n gwylio neu’n gwrando, a dechreuwch siarad eu hiaith nhw. Er enghraifft, os dych chi’n sôn am natur, efallai gallech chi fframio’ch pwyntiau chi o gwmpas yr hyn maen nhw’n ei weld yn yr ardd neu’r parc.

Gwyliwch yr enghraifft isod.

Ymarfer da yn y clip uchod:

  • Cymharu profiad pobl ddigartref dros y ‘Dolig gyda’r hyn y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei wneud
  • Defnyddio barn ac iaith emosiynol e.e. ‘horrific’, ‘picture perfect’
  • Enghreifftiau ymarferol e.e. ‘goody bag’, ‘chocolates and sweets’
  • Sôn am yr pty shelves’ – ffordd syml a gweledol i ddisgrifio diffyg stoc.

Cymariaethau ystyrlon

Un ffordd wych i gysylltu â’r cyhoedd ydy gwneud cymariaethau gyda phethau sy’n gyfarwydd i’r gynulleidfa.

Yn yr enghraifft hon, mae Harry Potter, Narnia, Lord of the Rings a llyfrau Roald Dahl yn helpu’r gwyliwr i ddeall y nifer o eiriau all plentyn eu darllen.

Straeon byd-go-iawn

Peidiwch â dibynnu’n llwyr ar ystadegau – gallwch ddefnyddio straeon diddordeb dynol i gefnogi’ch pwyntiau hefyd.

Er enghraifft, os oes gyda chi bryderon am y nifer o bobl sy’n dibynnu ar fanciau bwyd yn eich ardal chi, gallwch chi sôn am rhai o’r problemau cyffredin maen nhw’n eu hwynebu. Efallai bod astudiaeth achos allech chi sôn amdani, neu hyd yn oed siarad am eich profiadau personol.

Bydd y straeon ‘dynol’ yma yn gwneud i bobl teimlo bod eich negeseuon yn rhai ‘go iawn’, a gwnewch chi fwy o effaith.

Trosiadau ac iaith ‘bob dydd’

Meddyliwch am sut gallwch chi sôn am bwnc cymhleth mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr i bobl gyffredin.

Yn yr enghraifft yma, mae ‘gaping wounds’ a ‘sticking plasters’ yn ymadroddion sy’n disgrifio’r broblem mewn ffordd hawdd-i’w-ddeall ac emosiynol.

Rhowch y gwylwyr yng nghanol y stori

Gofynnwch gwestiwn, neu heriwch y gynulleidfa i roi eu hunain yn lle rhywun arall, gan ddefnyddio sefyllfaoedd penodol.

Er enghraifft, yn hytrach na ddweud ‘mae llawer o deuluoedd yn methu fforddio bwyd oherwydd incwm isel’, gallwch chi ddweud ‘dychmygwch ofyn i’ch plant golli swper gan nad ydych chi’n gallu fforddio’r bwyd’.

Y naws iawn

Trwy weld a chlywed eich angerdd chi, bydd pobl yn talu mwy o sylw. Er mwyn gwneud hyn, trïwch feddwl yn galed am y pwnc a sut dych chi’n teimlo amdano fe.

Mae’r clip yma gan Tenovus yn enghraifft gref, gyda phryder go iawn yn llais y siaradwr.

Ewch i’r lefel nesaf gyda hyfforddiant cyfryngau

Os mae’r cyngor yma wedi bod yn ddefnyddiol, ystyriwch hyfforddiant cyfryngau. Rwy’n cynnig sesiynau i elusennau a sefydliadau nid-er-elw yng Nghaerdydd ac ar draws Cymru.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma, neu cysylltwch â fi os hoffech chi ddarganfod mwy.

1 thought on “Hyfforddiant cyfryngau: sut i wneud eich cyfweliadau chi’n fwy effeithiol

Leave a Reply

Discover more from Richard Nosworthy - Arbenigwr Cyfathrebu Llawrydd, Caerdydd

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading