
Yn ystod fy sesiynau hyfforddiant, mae cwestiwn wedi’i godi’n aml: sut allai gael gafael ar newyddiadurwr a gwerthu fy stori? Dwi eisiau helpu ateb y cwestiwn yma.
Dwi wrthi’n paratoi cwrs newydd i gyfathrebwyr Cymru gyda Hyfforddiant NUJ Cymru, er mwyn rhoi cyngor am sut i ffeindio, cysylltu, a chreu perthynas effeithiol gyda newyddiadurwyr, er mwyn ennill sylw i’w straeon nhw.
Mae gen i brofiadau personol (o’r ddwy ochr), ond fe hoffwn i glywed gan weithwyr cyfathrebu a phobl yn y cyfryngau, er mwyn gwneud y cwrs mor ddefnyddiol â phosibl.
Beth ydy’r heriau i gyfathrebwyr?
Cyfathrebwyr: Pa mor hawdd neu anodd mae hi wedi bod i greu perthynas gyda newyddiadurwyr?
Beth ydy’r heriau cyffredin? Neb yn ateb eich ebyst? Ddim yn siwr pwy i gysylltu â nhw? Neu rywbeth arall?
Hefyd, beth sy wedi gweithio’n dda i chi? Os dych chi wedi creu perthynas cynhyrchiol, pam mae hynny wedi gweithio?
Newyddiadurwyr – beth fyddech chi’n awgrymu?

Os dych chi’n gweithio fel gohebydd neu gynhyrchydd, beth fyddech chi’n dweud wrth bobl cyfathrebu os maen nhw am gynnig straeon?
Sut maen nhw’n gallu eich helpu chi? Oes unrhyw beth ddylen nhw osgoi?
Sut i rannu eich barn chi
Hoffwn i glywed eich adborth erbyn dydd Gwener 26 Ionawr – gallwch chi adael sylw isod neu anfon e-bost.
Bydd eich sylwadau yn cael eu defnyddio fel rhan o fy sesiynau hyfforddiant. Caiff eich gwybodaeth chi eu defnyddio yn unol â’m polisi preifatrwydd.
Rwy’n edrych ymlaen at glywed eich sylwadau chi – diolch.