8 ffordd i fagu hyder mewn cyfweliadau cyfryngau

Mae hyd yn oed pobl brofiadol yn gallu teimlo nerfau cyn gwneud cyfweliad teledu neu radio. Felly sut allan ni reoli’r teimladau yma, a chreu argraff hyderus? Dyma fy nghyngor i.

Trwy ymddwyn a theimlo’n hyderus, gallwch chi greu argraff gwych. Llun gan Snapwire (CC0)

1. Paratowch yr hyn rydych chi eisiau ei ddweud

Sicrhewch eich bod chi’n glir am bwrpas y cyfweliad – pam dych chi’n gwneud hyn? Byddwch chi angen paratoi negeseuon allweddol fydd yn cael yr effaith iawn. Bydd angen hefyd eich ‘proof points’ chi – ffeithiau ac esiamplau sy’n cefnogi’r negeseuon.

2. Byddwch yn barod am y cyfweliad

Dylech chi gasglu gwybodaeth am y rhaglen, gohebydd a’r stori byddwch chi’n rhan ohoni. Gwiriwch fformat y cyfweliad a’r hyn bydd cyfranwyr eraill yn debygol i’w ddweud.

Er na fyddwch chi’n debygol i gael rhestr o gwestiynau, gofynnwch am ba fath o gwestiynau gallwch chi eu disgwyl. Sicrhewch fod chi’n barod ar gyfer cwestiynau tebygol.

3. Gadewch ddigon o amser

Mae’n bwysig bod digon o amser gyda chi i baratoi’n iawn, teithio i’r cyfweliad, a setlo mewn. Gadewch ddigon o amser rhag ofn bod rhywbeth yn mynd o’i le, fel oedi oherwydd traffig neu fynd ar goll. Beth am gyrraedd yn gynnar ac adolygu’ch negeseuon yno, yn hytrach na’r ffordd arall?

4. Gwiriwch eich ymddangosiad

Gallwch chi greu delwedd hyderus gan wisgo’n addas ar gyfer y stori a’r lleoliad. Sicrhewch fod chi’n edrych yn lân ac yn daclus, heb unrhyw beth fydd yn tynnu sylw’r gwylwyr. Bydd edrych yn hyderus yn eich helpu chi i deimlo’n hyderus.

5. Darllenwch yn uchel

Ymarferwch ddweud eich prif negeseuon yn uchel, hyd yn oed os mae’n teimlo’n rhyfedd. Os maen nhw’n teimlo’n anodd neu’n annaturiol, newidiwch nhw. Gwell fyth, gofynnwch i ffrind neu gydweithiwr i ymarfer. Os dych chi wedi ymarfer, dylai’r cyfweliad go iawn deimlo’n haws.

6. Cymerwch saib

Peidiwch â llenwi bob munud cyn y cyfweliad trwy ddarllen eich nodiadau. Mae’r argraff dych chi’n creu’r un mor bwysig â’r geiriau eu hunain. Treuliwch ychydig o amser yn ymlacio, trwy ymarferion anadlu, er enghraifft.

7. Ymddwyn yn hyderus

Gallwch chi deimlo’n fwy hyderus trwy fagu’r naws ac ymddaliad cywir. Arafwch, defnyddiwch ystum hamddenol a chyson, cadwch lefel briodol o gyswllt llygad a phlannwch eich traed yn gadarn ar y ddaear.

8. Datblygwch brofiad

Mae ymarfer yn bwysig. Dechreuwch gyda senarios llai heriol er mwyn adeiladu hyder. Nid cyfweliadau yw’r unig ffordd, chwaith. Mae cyfweliadau gyda myfyrwyr, fideos cyfryngau cymdeithasol a phodlediadau i gyd yn brofiadau defnyddiol – ond cymerwch ofal, yn enwedig os bydd y rhain yn gyhoeddus neu gael eu defnyddio ar lein.

Cyngor bonws: hyfforddiant cyfryngau

Mae hyfforddiant cyfryngau yn ffordd wych i fagu hyder. Os dych chi’n gweithio i elusen neu sefydliad nid-er-elw yng Nghaerdydd neu rywle arall yng Nghymru, beth am ddarganfod mwy am fy sesiynau hyfforddiant cyfryngau? Rwy’n gallu addasu’r sesiynau er mwyn cwrdd ag anghenion eich tîm, a darparu hyfforddiant yn y Gymraeg, Saesneg neu’r ddwy iaith. Cysylltwch â fi os oes gennych chi gwestiynau, neu os hoffech chi drefnu sesiwn.

1 thought on “8 ffordd i fagu hyder mewn cyfweliadau cyfryngau

Leave a Reply

Discover more from Richard Nosworthy - Arbenigwr Cyfathrebu Llawrydd, Caerdydd

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading