Mae paratoi’n dda yn hanfodol os rydych chi eisiau gwneud y gorau o’ch cyfweliad teledu neu radio. Os sut allen ni helpu ein cydweithwyr ni, cyn iddyn nhw ymddangos ar yr awyr?

Casglu gwybodaeth
Os rydych chi’n gyfrifol am drefnu’r cyfweliad, peidiwch â bod ofn i ofyn cwestiynau fel rhan o’ch sgwrs gyda’r newyddiadurwr.
Dylai hyn cynnwys y pethau ymarferol fel:
- Ble a pryd mae’r cyfweliad?
- Faint o’r gloch maen nhw angen cyrraedd y lleoliad?
- Pwy fydd y gohebydd?
Mae’r cyd-destun yn bwysig hefyd – beth ydy natur y stori a beth mae cyfranwyr eraill yn dweud?
Ac er nad oes rhaid iddyn nhw rannu rhestr o bob cwestiwn, dylech chi wirio pa fath o gwestiynau fydd yn cael eu gofyn.
Dogfen briffio
Mae hi’n gallu bod yn ddefnyddiol i greu dogfen briffio i’ch llefarydd. Trwy gasglu popeth pwysig mewn un lle, bydd hi’n hawddach iddyn nhw baratoi.
Negeseuon allweddol
Erbyn hyn, dylech chi fod yn glir am bwrpas y cyfweliad, o’ch safbwynt chi. Felly pa negeseuon fydd yn creu’r effaith iawn? Yn eich dogfen briffio, rhestrwch ychydig o brif negeseuon syml mewn pwyntiau bwled.

Cwestiynau ac atebion
Yn dibynnu ar gymhlethdod y pwnc, treuliwch ychydig o amser gyda’ch cydweithiwr yn trafod pa gwestiynau allai cael eu gofyn. Yn ogystal â’r pethau amlwg, ystyriwch beth fyddai beirniad yn dweud, a pha faterion eraill sy’n berthnasol yn y newyddion. Oes unrhywbeth mawr yn effeithio ar eich sefydliad ar hyn o bryd?
Ymarferwch
Mae’n syniad da i ymarfer y cyfweliad, yn arbennig os mae’n sefyllfa neu bwnc heriol. Gallwch chi esgus bod yn newyddiadurwr a chynnal cyfweliad ffug. Trïwch ei drin e fel un go iawn. Ar ôl, trafodwch sut aeth e, ac os oes angen mwy o baratoi.
Byddwch yn garedig
Yn aml, mae pobl yn nerfus am wneud cyfweliad teledu neu radio. Ac mae hyd yn oed y llefarwyr mwyaf profiadol yn amau eu hunain weithiau. Eich swydd chi ydy bod yn gefnogol a rhoi adborth adeiladol.
Cofiwch wrando ar / gwylio’r cyfweliad ei hun. Mae galwad neu neges garedig i’w canmol ar ôl cyfweliad byw yn dangos bod chi’n eu cefnogi nhw a gwerthfawrogi’r ymdrech maen nhw’n ei wneud.
Hyfforddiant cyfryngau
Gall sesiwn hyfforddiant cyfryngau helpu’ch tîm i wneud y gorau o’u cyfweliadau teledu a radio. Rwy’n cynnig sesiynau yn Gymraeg a/neu Saesneg i elusennau a mudiadau nid-er-elw. Cysylltwch â fi am fwy o wybodaeth.