Pump peth hanfodol i’w gwirio cyn eich cyfweliad teledu neu radio nesaf

Fel rhan o baratoi fy sesiynau hyfforddiant cyfryngau, dwi wedi astudio llawer iawn o gyfweliadau. Mae un peth yn glir: mae paratoi’n hanfodol. Yn y cyfweliadau gorau, mae’n amlwg iawn bod yr atebwr wedi cynllunio’n dda. Dyma rhai o’r pethau sylfaenol i’w hystyried… 

Photo by Amin Asbaghipour

1. Beth mae’r gohebydd eisiau? 

Mae’n bwysig deall pwrpas y cyfweliad o safbwynt y cynhyrchydd neu ohebydd. Peidiwch â chymryd unrhyw beth yn ganiataol!  

Beth ydy natur y rhaglen a’r stori? Sut bydd y cyfweliad yn cael ei ddefnyddio? Oes cyfranwyr eraill, ac os felly beth maen nhw’n mynd i ddweud am y pwnc?  

Pa fath o gwestiynau byddan nhw’n gofyn? Oes gen i atebion i’r cwestiynau tebygol (Mae dogfen Q&A yn dda am hyn)? 

Does dim lle i amlinellu popeth fan hyn, ond gwnewch yn siwr bod gennych chi ddarlun clir o’r cyd-destun.  

2. Pam ydw i’n gwneud y cyfweliad? 

Mae hyn yn swnio’n amlwg, ond wrth archwilio cyfweliadau, rydw i wedi gweld enghreifftiau lle nad ydy hi’n amlwg iawn pam mae’r atebwr yn cymryd rhan.

Er enghraifft, ydych chi’n gwneud hyn er mwyn galw ar y cyhoedd i wneud rhywbeth, neu ofyn i Lywodraeth Cymru newid ei pholisi? 

Os dych chi’n glir am hyn, mae ‘na fwy o siawns y bydd y cyfweliad yn effeithiol ac yn creu argraff dda. Os dych chi ddim yn glir, mae’n rhaid gofyn y cwestiwn: ddylwn i wneud y cyfweliad o gwbl? 

3. Beth ydy’r risgiau? 

Mae risgiau ym mhob cyfweliad, ac weithiau risgiau trwy beidio gwneud cyfweliad hefyd. Eto, does dim lle yma i restri pob un. Y peth pwysig ydy treulio ychydig o amser i feddwl am y risgiau, defnyddio nhw i benderfynu os (a sut) dych chi’n fodlon chymryd rhan, ac ystyried os/sut mae ‘na modd eu rheoli. 

Rhai enghreifftiau amlwg: ydych chi’n barod am gwestiynau caled? Oes digon o wybodaeth/negeseuon gyda chi i’w rhannu er mwyn llenwi’r sgwrs? Oes digon o amser i baratoi’n effeithiol a chyrraedd y stiwdio/lleoliad? 

4. Beth ydw i eisiau dweud? 

Peidiwch â dibynnu ar ateb cwestiynau’r gohebydd.

Mewn cyfweliad effeithiol, byddwch chi’n rannu eich prif negeseuon chi, felly beth fydd y negeseuon hynny?

Byddwch chi angen tystiolaeth/enghreifftiau i gefnogi’r negeseuon yma hefyd. A sicrhewch fod digon gennych chi i’w ddweud (yn dibynnu ar hyd y cyfweliad). 

5. Sut allai edrych a swnio’n dda? 

Mae’r ffordd mae rhywun yn edrych a swnio yn hollbwysig. Gallai’r cyfweliad gael ei sbwylio gan blant yn rhedeg tu ôl i chi, eich ffôn chi’n canu neu’r gwynt yn chwythu eich gwallt neu dei dros y lle i gyd. 

Ar y llaw arall, mae gwisgo’n dda, paratoi cefndir addas, a sicrhau bod dim byd yn mynd i amharu ar eich cyfweliad chi yn cyfrannu at greu argraff bositif ar y gynulleidfa. 

Hyfforddiant cyfryngau 

Eisiau mwy o gefnogaeth i’ch hun neu i’ch tîm? Rwy’n cynnig sesiynau hyfforddiant cyfryngau i elusennau a sefydliadau nid-er-elw yng Nghaerdydd a dros Gymru. Cysylltwch â fi am fanylion pellach.  

Leave a Reply

Discover more from Richard Nosworthy - Arbenigwr Cyfathrebu Llawrydd, Caerdydd

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading