Sut allai cyrraedd mwy o’n cynulleidfa targed? Oes ffordd well i rannu ein straeon a chreu cysylltiad dwfn gyda’r cyhoedd?
Dyma rhai o’r heriau cyffredin sy’n wynebu pobl cyfathrebu – ac rydw i ac Hyfforddiant NUJ Cymru yma i’ch helpu!

Helpu dysgwyr i gael sylw ar newyddion teledu
Diolch yn fawr i bawb wnaeth cymryd rhan yn y ddau gwrs yma’n ddiweddar (‘Cynyddu Cyrhaeddiad Eich Ymgyrch Gan Ddefnyddio Newyddion Teledu’, 21 a 23 Tachwedd 2022).
Roedd y cwrs Cymraeg a’r cwrs Saesneg yn llawn sgyrsiau diddorol am heriau fel cryfhau’r stori a’i gwerthu i newyddiadurwyr. Mae hi wastad yn ddefnyddiol i fi ddeall yr hyn sy’n wynebu gweithwyr cyfathrebu, er mwyn gwybod sut allai eich helpu yn y dyfodol.
Roedd nifer o syniadau gwych am straeon hefyd, ac rwy’n edrych ymlaen at eu gweld nhw ar ein sgrinau cyn bo hir!
Nesaf: meddwl am greu podlediad?
Mae podlediadau yn ffordd wych i drafod pynciau a chreu cysylltiad cryf gyda chynulleidfa. Efallai bod chi wedi ystyried creu un i’ch sefydliad ond ddim yn siwr ble i ddechrau? Dyma’r cwrs i chi!
Ar ddydd Gwener 9fed Rhagfyr 2022 byddai’n rhedeg cwrs Cymraeg byr (un awr) ar-lein ‘Cysylltu â’ch cynulleidfa trwy bodlediadau‘ fel rhan o gynllun ‘Sgiliau Gloi Gwener’ Hyfforddiant NUJ Cymru.
Byddwn yn mynd trwy’r proses o gynllunio, cynhyrchu ac hyrwyddo podlediad, ac ystyried y manteision yn ogystal â’r heriau i’w datrys.
Cliciwch yma i gofrestru, neu allwch chi ymuno â’r cwrs Saesneg ar 27 Ionawr 2023.
Ac mae ‘na fwy ar gael…
Beth bynnag eich anghenion, dwi’n siwr bydd rhywbeth o ddiddordeb yng nghalendr Hyfforddiant NUJ Cymru. Mae tiwtoriad eraill yn cynnig cyrsiau megis SEO, creu graffegau, a defnyddio TikTok. Cadwch lygad ar eu gwefan nhw.
Os nad ydych chi’n ffeindio beth bynnag chi angen, edrychwch ar fy ngwasanaethau i, neu anfonwch neges.
Mwynhewch ddysgu!