
Ein gwestai ni y tro yma ydy Steve Dimmick.
Mae Steve yn gyd-sylfaenydd (co-founder) y cwmni Doopoll, sy’n gwneud arolygon ar lein (online surveys).
Cafodd e ei fagu yn Y Blaenau yng nghymoedd de-ddwyrain Cymru, a symudodd e i Abertawe a Llundain. Dechreuodd Steve ddysgu Cymraeg, a daeth e’n ôl i Gymru – i Gaerdydd.
Yn y pennod yma, rydyn ni’n trafod y Gymraeg yn y byd busnes a thechnoleg, yn ogystal â phrofiadau Steve o dysgu’r iaith a’i defnyddio hi gyda theulu, ffrindiau ac yn y gymuned.
Geirfa
Y Blaenau – Blaina (tref fach rhwng Brynmawr ac Abertyleri)
Cyd-sylfaenydd – Co-founder
Clem – Idea (e.e. ‘dim clem’ – no idea)
Amynedd, Amyneddgar – Patience, Patient
Arolygon – Surveys
Holiadur – Questionnaire
Amlieithog – Multilingual
Rhyngwyneb – Interface
Curious – Chwilfrydig
Gwirio sillafu – Check spelling
Ymladd – Fight
Arfau – Weapons
Clod – Praise
Agwedd – Attitude, aspect
Meistroli – Master
Prydferth – Beautiful
Linciau
Doopoll (cwmni Steve)
Cardiff Read (clwb llyfrau Steve)
Dwnsiwn y Dis (Dicey Dungeons) – gêm ar gyfer y Nintendo Switch a phlatfformau eraill sydd ar gael yn Gymraeg
Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros – Nofel mae Steve yn hoffi ac yn son amdani yn y sgwrs