
Ar ôl fwy flynedd o bodlediad Hefyd, mae’n amser i fi gael brêc.
Nôl ym mis Chwefror 2021, recordiais i bennod peilot gyda fy ffrind, Walter Brooks, sy’n dod o Batagonia yn wreiddiol.
Roedd y syniad am bodlediad sy’n rhoi platfform i ddysgwyr Cymraeg rhugl wedi bod ar fy meddwl ers amser hir. Ro’n i’n teimlo bod llawer o ymdrech i berswadio pobl i ddechrau dysgu’r iaith, ond roedd nifer fawr o ddysgwyr yn rhoi’r gorau iddi neu ddim yn symud i lefel uwch.
Fel rhywun sydd wedi dysgu, ro’n i’n gwybod bod llawer o bobl wedi dysgu i safon digon da i’w defnyddio o dydd i ddydd. Cyfle, felly, i rannu’r straeon diddorol yma er mwyn ysbrydoli dysgwyr eraill, rhoi cyfle iddyn nhw magu hyder trwy recordio podlediad, a hefyd darparu podlediad o ddiddordeb (gobeithio) i siaradwyr rhugl gyda diddordeb yn y pwnc.
Daeth yr enw ‘Hefyd’ o’r syniad bod ni – oedolion sy’n dysgu – hefyd yn siaradwyr Cymraeg, nid yn unig siaradwyr iaith gyntaf. A gyda pobl yn dysgu am nifer o rhesymau sy’n plethu â’r bywydau, ro’n i’n gwybod bod amrywiaeth o brofiadau.
Ces i ymateb da i’r peilot gyda Walter – a dau beth newidais i yn sgil yr adborth: gwneud y podlediad yn agosach i hanner awr yn hytrach nag awr, a darparu geirfa ar y wefan.

Ers hynny, dwi wedi cyhoeddu pennod bron bob mis, a chael y fraint i siarad gyda 20 o bobl anhygoel, o bob cwr o’r byd, sydd wedi meistroli’r Gymraeg a’i defnyddio gyda ffrindiau, cydweithwyr neu gymdogion. Diolch i bob un ohonoch chi!
Dwi ychydig yn hwyr gyda phennod 21, ond bydd hwnnw allan yn fuan iawn. Ar ôl hynny bydd y podlediad yn cymryd egwyl am ychydig. Dwi angen amser i wneud gwaith arall, ac mae gen i un neu ddau prosiect dwi’n ystyried datblygu. Efallai podlediad gwahanol! Ond dwi’n gobeithio dychwelyd am gyfres arall o bodlediad Hefyd yn hwyrach eleni.
Yn y cyfamser – diolch o galon am wrando, cyfrannu a rhannu eich sylwadau caredig. Dwi’n gwybod bod y podlediad wedi helpu nifer o ddysgwyr. Ewch nôl i wrando ar yr hen benodau, a chysylltwch â fi gyda syniadau am westeion eraill neu sut allai ddatblygu’r podlediad.
Felly ta-ta…am nawr!