
Ein gwestai ni y tro yma ydy Jo Heyde.
Dechreuodd Jo ddysgu ar ôl treulio gwyliau yng Nghymru a chlywed sgwrs Cymraeg yn y gwasanaethau traffordd!
Mewn 4 mlynedd mae hi wedi dysgu’r iaith i safon uchel. Erbyn hyn mae hi’n rhan o’r gymuned Gymraeg yn Llundain, ac mae hi wedi darganfod barddoniaeth ac ennill gwobrau am ei cherddi!
Hefyd yn y pennod yma rwy’n rhannau rhai o’ch atebion i’r ‘Cwestiwn Y Mis’ postiais i ar Twitter ‘Pam wnest ti ddechrau dysgu Cymraeg?’ – diolch am gyfrannu, dilynwch Hefyd ar Twitter er mwyn ymuno â’r sgwrs nesaf.
Geirfa
Barddoniaeth – Poetry
Cerddi – Poems
Hala amser = Treulio amser
Traffyrdd – Motorways
Go gloi – Pretty quickly
Ar goedd – Openly, publicly
Ymdrochi – To bathe
Rhychwant – Span
Gweddi – Prayer
Dilys – Valid
Ffili = Methu
Hepgor – Skip
Mynychu – Attend
Clonc – Chat
Dawn – Talent
Dyfalbarhau – Persist
Ailadroddllyd – Repetitive
Gwendid – Weakness
Cynghanedd – A technique used in Welsh poetry (more on Wikipedia)
Awen – Muse
Goddrychol – Subjective
Rhwyddineb – Fluency
Uchelgeisiol – Ambitious
Linciau
Ffosfforws 2 – Cyhoeddiadau’r Stamp (barddoniaeth sy’n cynnwys gwaith Jo)