Arolwg diweddaraf Ofcom: beth mae’n olygu i gyfathrebwyr elusennau Cymru?

Ym mis Gorffennaf y llynnedd fe bostiais i’r blogiad yma am ymchwil diweddaraf Ofcom ar y cyfryngau newyddion yng Nghymru, a wnes i grynhoi rhai o’r prif bwyntiau i gyfathrebwyr elusennau Cymru.

Mae hi bellach wedi cyhoeddi ei hadroddiad Cyfryngau’r Genedl, ac mi rydw i wedi’i ddarllen felly does ‘na ddim rhaid i ti wneud e!

Dyma rhai o’r prif pwyntiau, yn fy marn i…

Newyddion teledu sydd gyda’r cynulleidfaoedd mawr o hyd yn 2022

Mae ‘na trend hir dymor: rydyn ni’n gwylio llai o deledu. Ac mae’r adroddiad yma yn cadarnhau hynny.

Ond yn aml iawn rydyn ni fel cyfathrebwyr mewn elusennau eisiau siapo’r agenda newyddion, a fan hyn mae teledu yn dominyddu o hyd.

Ymysg oedolion sy’n dilyn y newyddion, y tri prif ffynhonnell ar gyfer newyddion am Gymru ydy:

1. BBC 1 (46%)

2. ITV Cymru (28%)

3. Facebook (21%)

Yn gyffredinol, mae 60% o’r grŵp hon yn cael eu newyddion Cymreig o’r teledu, llawer mwy na’r cyfryngau cymdeithasol, radio, papurau newydd a gwefannau.

Felly os galli di ddarparu straeon a chynnwys sy’n gweithio’n dda ar BBC Wales Today, Newyddion S4C a Newyddion ITV Cymru, mae gen ti siawns da y bydd hynny’n cael effaith mawr.

Mae hyn yn bwysicach byth os rwyt ti am gyrraedd pobl hŷn – mae pob dros 55 oed yn gwylio bron pum gwaith y teledu mae oedolion ifainc yn ei wylio!

Radio a phodlediadau – gwych ar gyfer creu cysylltiad dyfnach gyda’r gynulleidfa

Mae Cymru yn wlad o wrandawyr radio o hyd, ac mae’r adroddiad Ofcom yn dangos bod mwy na naw allan o ddeg ohonon ni wedi gwrando yn yr wythnos diwethaf.

Mae hi wedi bod mor mor siomedig i weld cymaint o amrywiaeth a chynnwys lleol yn diflannu yn ddiweddar – gobeithio’n fawr bydd hyn yn newid. Ond mae ‘na rhaglenni a phodlediadau diddorol i’w cael.

Tra bod gorsafoedd mawr Prydeinig yn denu’r rhan fwyaf o wrando yng Nghymru, mae bron 20% ohonon ni’n gwrando ar Radio Cymru neu Radio Wales bob wythnos, a gorsafoedd masnachol lleol yn cyrraedd tua 40%.

Cofiwch hefyd bod podlediadau bellach yn cyrraedd 13% o oedolion Cymru.

Mae radio’r BBC a phodlediadau yn ffyrdd ardderchog i ymchwilio materion dyfnach, yn enwedig gyda chynulleidfaoedd gwleidyddol neu niche.

Felly beth am ystyried sgwrs ar raglen fel Dros Ginio, Sunday Supplement neu bodlediad fel Hiraeth – efallai bydd stori dy elusen di yn ddiddorol iawn i’r rhai sy’n gwrando.

Fideos cymdeithasol: ymgysylltu ag oedolion ifanc (a ddim-mor-ifanc) trwy TikTok

Rydyn ni’n wlad sy’n gwylio fwyfwy o fideos cymdeithasol a llai o deledu traddodiadol.

Mae cynnydd TikTok yn wirioneddol anghygoel. Ers cael ei lansio’n fyd-eang pum mlynedd yn ôl, mae hi bellach yn cyrraedd 36% o oedolion sy’n defnyddio’r rhyngrwyd yng Nghymru, sy’n treulio dros hanner awr ar y platfform bob dydd, ar gyfartaledd.

Fel byddet ti’n disgwyl, ymhlith oedolion ifanc mae TikTok yn fwy poblogaidd, gyda 79% o bobl 15-24 oed sydd ar lein yng Nghymru yn ei ddefnyddio.

Mae Facebook & Messenger hefyd yn boblogaidd, ond ar draws grwpiau oedran, ac mae dros hanner oedolion Cymru’n gwylio Youtube.

Felly os nad ydy dy elusen di’n defnyddio fideo cymdeithasol eto, mae’r ymchwil yma’n dangos bod hynny’n bendant rhywbeth i’w ystyried.

Os nad wyt ti’n siwr sut i ddechrau, beth am ddarllen y blogiad yma gan Cyngor ar Bopeth ar wefan Charity Comms: what to know when starting a Tiktok channel.

Newyddion trwy’r cyfryngau cymdeithasol a gwefannau

Os edrychwn ar ffynhonnellau newyddion ‘cyffredinol’ yng Nghymru, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ail (51%) i deledu (77%).

Mae’n batrwm tebyg o ran newyddion am Gymru’n benodol, gyda theledu ar 60% a’r cyfryngau cymdeithasol ar 27%. Facebook (21%) ydy’r prif blatfform, a Twitter yn ail ar 6%.

Byddwn i’n disgwyl bod rhan mawr o hyn yn cynnwys rhannu linciau o wefannau newyddion – felly beth mae’r data yn ei ddweud am y rheiny?

O ran newyddion Cymreig, mae ‘gwefannau/apiau sefydliadau newyddion ar-lein’ ar y brig gyda 16%, a ‘gwefannau/apiau papurau newydd’ a ‘gwefannau/apiau cwmnïau teledu a radio’ ar 11% yr un.

Mae’r data braidd yn ddryslyd a chroesebol yn fy marn i. Dwi’n credu bod straeon ar wefannau newyddion Cymreig yn gallu cyrraedd mwy na 16% – ydy pobl yn gwahaniaethu rhwng, dweud, stori ar Wales Online a linc i’r un stori ar eu ffrydiau Facebook?

Wedi dweud hynny, dyma fy nghasgliadau i:

  • BBC Cymru ar-lein ydy’r prif wefan, siwr o fod, er mwyn sicrhau cyrraedd cynulleidfa mawr yn ogystal â dylanwad, ond…
  • Dylai cyfathrebwyr feddwl am sut bydd y stori yn ‘perfformio’ ar-lein, cymaint a ble mae’r stori yn ymddangos. Yn aml, mae pobl yn rhannu neu ddarllen straeon ar sail y stori ei hun, nid ble maen nhw wedi’i ddarllen e.
  • Meddylia am y gynulleidfa’n gyntaf. Er enghraifft, os wyt ti’n targedu siaradwyr Cymraeg, beth am Golwg 360? Mae straeon ‘diddordeb dynol’ yn gallu gwneud yn dda ar Wales Online, felly ydy hynny’n rhywbeth o ddiddordeb i’r bobl rwyt ti’n eu targedu?

Yn y cyfamser, mae hi wedi bod yn drist i weld The National Wales yn cau ei ddrysau, fel mae’n cael ei ddatgan yma gan Nation.Cymru…

Casgliadau

Llun gan Gracini Studios ar Pixabay

Dydy’r adroddiad Cyfryngau’r Cenedl ddim yn cynnwys popeth allen ni eisiau gwybod am y cyfryngau yng Nghymru, ond mae ‘na nifer o gasgliadau defnyddiol.

Oes, mae ein cyfryngau cenedlaethol yn wan o hyd, ac mae angen datrys hyn. Ond yn aml mae ‘na cyfleoedd i ni’r cyfathrebwyr.

Yn sicr mae’n haws cyrraedd y rhai sy’n dilyn y newyddion/gwleidyddiaeth trwy’r cyfryngau Cymreig, ond mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod ‘na dewisiadau amgen megis TikTok sy’n gallu cyrraedd pobl eraill.

Dewis y dull cywir sy’n bwysig, felly cofia meddwl am y gynulleidfa’n gyntaf bob tro!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s