
Y mis yma, dwi’n siarad gyda Rhian Howells o ardal Abertawe.
O Waunarlwydd mae hi’n dod yn wreiddiol ond erbyn byn mae hi’n byw ym Mhenclawdd.
Mae Rhian yn athrawes mewn ysgol Saesneg sy’n angerddol am y Gymraeg. Felly mae hi wedi gwneud y cwrs ‘Cymraeg Mewn Blwyddyn’ er mwyn iddi hi ddefnyddio’r iaith yn y dosbarth.
Yn ogystal â’i gwaith, mae hi’n awdur plant, ac yn y sgwrs rydyn ni’n trafod ei llyfr Princess Pirate Pants! Mae hi’n hoffi meddwlgarwch (mindfulness) hefyd ac mae hi wedi gwneud fideos meddwlgarwch ar Youtube.
Linciau
Llyfr Rhian: Princess Pirate Pants (Amazon)
Sianel Youtube Rhian: Mrs Meddwlgarwch