
Yn y pennod yma, dwi’n siarad gyda Josh Osborne, enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd 2022.
Mae Josh yn 24 oed ac yn dod o Poole yn Ne Lloegr yn wreiddiol ond erbyn hyn mae e’n byw yn Abertawe. Mae ei bartner e yn siarad Cymraeg, felly yn ystod y cyfnod clo – neu lockdown – penderfynodd e ddysgu’r iaith ar lein.


Yn ein sgwrs, trafodon ni sut dechreuoedd e ddysgu ar ddechrau’r pandemig a’r profiad o gystadlu ac ennill ei wobr. Mae cyfle hefyd i ddanganfod ychydig am ei hobi, ffitrwydd polyn (pole fitness).
Mae mwy o wybodaeth am Fedal y Dysgwyr ar wefan yr Urdd – efallai hoffech chi gystadlu y tro nesaf?