
Pleser mawr ydy e bob tro mae Radio User yn dod trwy’r post – yn enwedig pan mae ‘na un o fy erthyglau fy hun!
Yn rhifyn mis Gorffennaf 2022, gallwch chi ddarllen rhan 2 o’r erthygl am radio mewn ieithoedd lleiafrifol. Diolch yn fawr i’r canlynol am gymorth:
- Arvorig FM, gorsaf radio Llydaweg
- Two Lochs Radio yn yr Alban, sy’n dalledu’n rhannol trwy’r Gaeleg
- Y Pod – gwefan sy’n hwb ar gyfer podlediadau Cymraeg
- Radyo an Gernewegva – gwasanaeth radio Cernyweg, ar gael ar-lein ac ar orsafoedd lleol
Yn gyffredinol, mae’r ymchwil a wnes i ar gyfer yr erthygl hon wedi dangos mor bwysig mae radio i fodolaeth a dyfodol yr ieithoedd hyn. Mae technoleg yn newid yn gyflym, sy’n creu cyfleoedd newydd i gyrraedd siaradwyr, helpu dysgwyr ac ysbrydoli y cyhoedd ehangach.
Gallwch brynu’r cylchgrawn mewn siop papurau (megis WH Smith Caerdydd), neu ar lein.
A beth am ddarllen ar y gorsafoedd yma ar-lein, neu ddarganfod mwy trwy Radio Garden?
Mwynhewch!