Beth yw statws ieithoedd lleiafrifol Ewrop ar y radio?
Yng Nghymru ‘dyn ni’n gyfarwydd iawn â BBC Radio Cymru (a Radio Cymru 2), ond mae ‘na lawer mwy i’r stori.
Fan hyn, mae llwyth o bodlediadau Cymraeg (megis Hefyd, plyg plyg), yn ogystal â gorsafoedd eraill sy’n darlledu yn yr iaith. Mae’r sefyllfa yn wahanol iawn mewn gwledydd eraill – yng Nghatalonia mae Catalunya Ràdio yn rhedeg 4 gorsaf wahanol yng Nghatalaneg, tra bod y BBC yng Nghernyw yn daraparu 5 munud yr wythnos yn unig.
Yn rhan un o’m darn ar gyfer y cylchgrawn Radio User, edrychais ar y gorsafoedd gwasanaeth cyhoeddus mewn ieithoedd lleiafrifol. Ar hyn o bryd rwy’n paratoi rhan 2 – sy’n archwilio gorsafoedd masnachol neu gymunedol, a phodlediadau.
Cysylltwch â fi os hoffech chi gyfrannu, neu awgrymu enghraifft diddorol! Rwy’n chwilio am bobl all ateb ychydig o gwestiynau dros ebost, a chyfrannu lluniau gallwn ni eu cyhoeddi yn y cylchgrawn.