8 esiampl o elusennau Cymreig sy’n defnyddio Twitter yn dda

Nid rhywle i gwyno a ffraeo yn unig yw Twitter! Mae’r platfform yn gallu bod yn lle bositif iawn, gyda nifer fawr o elusennau Cymreig yn ei ddefnyddio i godi arian, lobio a chysylltu cefnogwyr.

Er nad yw’r blogiad yma yn arolwg gywddonol a chynhywsfawr, rwy’n gobeithio bydd yr enghreifftiau hyn yn eich ysbrydoli!

1. Cwrt Insole, Caerdydd

Dyma elusen fach leol sy’n gwneud y gorau o’r cyfleoedd sy gyda nhw, gyda llais cyfeillgar a dwyieithog i’ch temptio chi i ymweld â’r plasdŷ yn ardal Llandaf.

2. Mind Cymru

Gyda chynnwys fideo pŵerus a neges glir, mae’r elusen iechyd meddwl yma yn lobio’r llywodraeth i daclo’r pwnc ar frys.

3. Gôl Cymru

Mae dathlu llwyddiant yn bwysig er mwyn denu cefnogwyr ac adeiladau perthynas, yn ogystal â chodi proffeil eich brand chi. Mae Gôl Cymru yn gwneud yn siwr eu bod nhw’n rhannu lluniau da o’i waith, gyda disgrifiad syml o’r prosiectau.

4. Sŵ Mynydd Cymru

Dylai lluniau da fod yn ganolog i strategaeth cyfryngau cymdeithasol. Wrth gwrs mae sŵ yn lle da i gasglu delweddau cyffrous, ond mae’n rhaid i chi gysylltu nhw â’ch prif negeseuon, a dyna mae’r Welsh Mountain Zoo yn ei wneud.

5. Welsh Women’s Aid

Mae’r elusen yma’n defnyddio llais a delweddau clir a chryf i helpu menywod, ymateb i’r newyddion a lobio am newid.

6. Play Wales

Dwi’n caru’r trydariad yma – mae’r neges yma’n un pwysig ond efallai nid yr un mwyaf diddorol. Trwy ddefnyddio llun sy’n cysylltu’r brand a’r neges mewn ffordd ddoniol, mae Play Wales yn denu sylw ei gynulleidfa.

7. Coed Cadw

Mae Coed Cadw yn defnyddio Twitter mewn sawl ffordd greadigol, sy’n cyfuno rhannu gwybodaeth, dathlu pwysicrwydd ac harddwch coed, ac ymgyrchu. Mae’r edefyn yma’n dehongli’r ystadegau tra’n rhannu atebion i’r problemau.

8. Grŵp Afonydd Caerdydd

Dylai’r cyfryngau cymdeithasol fod yn, wel, cymdeithasol! Da iawn i Cardiff Rivers Group, nid yn unig am eu gwaith nhw, ond hefyd y ffordd maen nhw’n diolch i wirfoddolwyr ac ymateb i bobl/grŵpiau eraill er mwyn cryfhau’r gymuned.

Beth dych chi’n meddwl am yr enghreifftiau yma? Oes enghreifftiau da eraill dylwn i wybod amdanyn nhw? Rhowch wybod yn y sylwadau!

Os dych chi eisiau help i gyfathrebu’n well yn eich elusen neu sefydliad di-elw, cysylltwch â fi.

Leave a Reply