Sut i greu eich podlediad cyntaf: 10 peth rydych chi angen gwybod

Mae podlediadau yn sianel cyfathrebu bendigedig. Maen nhw’n gyfleus, perffaith ar gyfer diddordebau niche ac yn rhywbeth gallwn eu mwynhau heb amser o flaen sgrîn. Maen nhw hefyd yn ffordd wych i elusennau a grŵpiau nid-am-elw rannu straeon a gwneud cysylltiadau. Felly sut ddylech chi ddechrau?

Yn haf 2018, fe wnes i a 3 ffrind ddechrau podlediad Seismic Wales. Er fy mod i’n gweithio yn y maes cyfathrebu ar y pryd, ac yn mwynhau gwrando arnyn nhw, dyna oedd y tro cyntaf i fi (neu’r llaill) wneud un fy hunan. Felly dyma ychydig o tips, ar sail yr hyn dwi wedi ei ddysgu yn y proses…

1. Dewiswch cysyniad – a sticiwch ato fe!

Roedd Seismic Wales am gynaliadwyedd cymunedol yng Nghymru – pa bwnc fyddwch chi’n ei ddewis?

Mae gwrandawyr yn hoffi cysondeb, ac fe fydd hi’n eich helpu chi i greu brand eich podlediad chi hefyd. Mae’n hollol iawn i fod yn off-topic o fewn sgwrs ambell waith. Ond os rydych chi’n gwneud podlediad am gogyddion amatur, dylet ti ffocysu ar hynny yn hytrach na ffermio neu sglefrolio.

2. Fformat: cadwch e’n syml

Ar Seismic Wales roedd y rhan fwyaf o benodau yn ‘benodau llawn’ gydag un cyfweliadu neu fwy yn ogystal â ‘sgwrs grŵp’, neu ‘benodau bonws’ gydag un cyfweliad yn unig. Os rydych chi’n dechrau o’r newydd, triwch gadw pethau’n syml – rhywbeth gallwch chi wneud yn rheolaidd gyda’r amser, sgiliau ac offer sy gyda chi.

3. Cynlluniwch eich penodau

Gall hyn gymryd eitha lot o amser, ond bydd gwneud ymdrech ar y cychwyn yn gwneud pethau’n haws yn y pen draw. Os oes gwesteion gyda chi, triwch siarad ‘da nhw o flaen llaw, cyn i chi recordio. Bydd hyn yn creu perthynas da a’ch helpu chi i feddwl am gwestiynau a phynciau. Weithiau, bydd eich gwesteion chi’n nerfus, felly dyma eich cyfle chi i’w helpu nhw i ymlacio er mwyn i chi gael sgwrs hwylus a chyfeillgar pan rydych chi’n recordio.

4. Dewch o hyd i wasanaeth cynnal hawdd i’w defnyddio

Soundcloud is one simple way to host and promote your podcast.

Mae ‘na lwyth o opsiynau ar gael, rhai yn rhad ac am ddim, sy’n amrywio o ran faint o arbenigrwydd sydd ei angen arnoch chi. Defnyddion ni Soundcloud am Seismic Wales – roedd hi’n teimlo’n hawdd i’w defnyddio ac mae’r fersiwn ‘pro’ yn gwthio eich podlediadau allan i’r prif blatfformau fel Apple Podcasts. Mae opsiynau hawdd eraill yn cynnwys Anchor a Podbean.

5. Dewch o hyd i ddyfeis recordio sylfaenol

Gyda dyfeis recordio symudol, gallwch recordio synau cefndir fydd yn cyfleu awyrgylch eich lleoliad recordio chi.

Er ei bod hi’n bosibl i recordio gyda ffôn clyfar yn unig, bydd meicroffôn go iawn yn rhoi sain mwy soffistigedig i’ch podlediau chi. Ond, cyn i chi wario arian mawr, beth am ddechrau gyda’r offer sy gyda chi, neu fenthyg offer ffrind? Byddai hynny’n rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau chi a chael gwell syniad i chi os bydd hyn yn rhywbeth hoffech chi wneud yn y tymor hir. Dechreuais i gyda dyfais rhad – y Zoom H1 – gyda Gorillapod i’w ddal yn ei le. Nid yr offer gorau, efallai, ond digon da. Cyn bo hir, darganfyddais i taw techneg sy’n bwysig, nid technoleg. A phan aeth pethau o’u lle, roedd ffôn symudol yn ddigon da fel backup! Os hoffech chi fuddsoddi mewn offer gwell, edrychwch ar feicroffônau podledu gan Rode a pheiriannau recordio gan Zoom er mwyn recordio on location.

Engraifft o bodlediad a recordiwyd ar y Zoom H1

Enghraifft o bodlediad a recordiwyd ar ffôn symudol (prif gyfweliad yn unig)

6. Recordio mewn person: dewiswch eich lleoliad chi’n ofalus

Gall recordio ar bwys dodrefn meddal helpu gwella ansawdd y sain.

Gyda Seismic, fe ddechreuon ni gan recordio popeth mewn lleoliad gwahanol (cyn Covid). Yn fuan iawn, darganfyddais i taw ychydig o bethau allweddol oedd yn gwneud gwahaniaeth mawr i ansawdd y sain.

Ble bynnag yr ydych chi, mae monitro’r sain gyda chlustffonau’n hanfodol. Fe wneith pâr o glustffonau rhad y tro.

Os rydych chi’n recordio mewn adeilad, gwnewch bopeth y gallwch chi i osgoi synau cefndir fel gwyntyllau, ffônau’n canu a drysau’n agor. Er y gall sain cefndir ‘awyrgylch’ fod yn wych, gwnewch yn siwr na all hi dominyddu’r recordiad. Triwch ddefnyddio lleoliad gyda digonedd o ddodrefn meddal – ystafell chwarae plentyn oedd un o’r lleoliadau gorau defnyddion ni ar Seismic. Neu os rydych chi’n recordio adre, beth am orwedd ar wely neu mewn castell blancedi?

Os mae’r tywydd yn addas, mae recordio tu allan yn opsiwn gwych. Byddwch yn ymwybodol o sŵn y traffig neu’r gwynt, a byddwch yn barod i symud os mae hi’n broblem.

7. Recordio o bell: ddim mor anodd â hynny

Gwnaeth y pandemic ein gorfodi ni i recordio ar lein – ond gall hyn fod yn ffordd dda ar ôl effeithiau Coronafeirws os nad ydych chi’n gallu teithio am unrhyw rheswm. Ffordd hawdd iawn i wneud hyn yw recordio sgwrs Zoom o fewn yr ap (PC neu Mac) – bydd y recordiad yn cael ei islwytho ar ddiwedd y galwad. Mae Cleanfeed yn opsiwn hawdd arall (fersiwn am ddim ar gael). Annogwch eich gwesteion chi i ddefnyddio clustffonau a lleoliad tawel heb atsain. Mae’n ddigon posibl y bydd sain o ffôn clyfar yn well na’r meicroffon sy’n rhan o gyfrifiadur. Er mwyn mynd â’r ansawdd i’r lefel nesaf, gwnewch recordiadau lleol o bawb ar ffôn neu ddyfais recordio arall ar yr un pryd (gwnewch i sicr bod pobl yn defnyddio clustffonau yn yr achos yma). Wedyn, gallwch gyfuno’r ffeiliau hyn wrth olygu, gan ddefnyddio’r prif recordiad Zoom/Cleanfeed fel canllaw.

8. Golygwch eich podlediad gyda meddalwedd am ddim

Mae Garageband yn ddewis ardderchog ar gyfrifiaduron Apple.

Y dull golygu gorau, a mwya pwysig, yw’r dewisiadau rydych chi’n eu gwneud cyn ac yn ystod recordio. Os rydych chi’n cynllunio’r cyfweliad a chadw’r sgwrs yn gryno, byddwch chi’n osgoi llawer o amser o flaen sgrîn nes ymlaen!

Ar ôl hynny, triwch dorri allan unrhyw rannau hir o waffle neu sy’n ail-ddweud yr un pwynt. Dechreuon ni gyda’r meddalwedd rhydd, rhad ac am ddim Audacity, sy’n gwneud y tro. Ond cyn bo hir fe newidiais i i Garageband (am ddim, Mac yn unig) sy’n hawdd a chyflym.

Mae’n debygol y byddwch chi eisiau defnyddio cerddoriaeth. Peidiwch â defnyddio eich hoff gân pop – gwiriwch yn ofalus bod yr hawliau anghenrheidiol ganddoch chi! Defnyddion ni fiwsig gwreiddiol gan Christian a’i ffrind yn Seismic Wales. Efallai byddwch chi hefyd angen ychwanegu darnau i groesawu gwrandawyr a rhoi cyd-destun i gyfweliadau neu sgyrsiau.

9. Gwiriwch, a chyhoeddwch!

Rydych chi wedi golygu eich podlediad ac mae’n bryd i chi ei ryddhau i’ch cynulleidfa. Gall hyn fod yn gyfnod pryderus. mae hi’n syniad da i ofyn i o leiaf un person arall i wrando arno fe cyn iddo fynd yn fyw. Efallai byddan nhw’n clywed gwallau rydych chi wedi’u colli – ac mae’n cyfle i glywed y sain ar ddyfais arall. Gadewch ychydig o amser i gael adborth a gwneud newidiadau.

10. Hyrwyddwch eich podlediad chi, ac adeiladwch gynulleidfa

Ar ôl recordio, dwedwch diolch wrth eich gwesteion a dwedwch wrthyn nhw sut allen nhw wrando..

Pan rydych chi’n dechrau, mae’n debygol bydd nifer bach o bobl yn unig sy’n gwrando. Ymlaciwch. Bydd hi’n cymryd amser i adeiladu’ch cynulleidfa chi. Dwedwch wrth bawb sy’n rhan o’r podlediad sut i wrando. Mae hi’n gyfle i ddiolch iddyn nhw a gofyn iddyn nhw rannu gyda’u rhwydweithiau eu hunain. Defnyddiwch unrhwy cynulleidfa sy gyda chi yn barod, gan rannu’r linc trwy negeseuon ebost neu gyfryngau cymdeithasol. Annogwch bobl i danysgrifio. Mae Apple Podcasts yn blatfform pwysig iawn felly gwnewch yn siwr bod eich podlediad chi ar gael yno, a gofynnwch i wrandawyr i adael adolygiadau (positif). Yn olaf, triwch gadw at gynllun postio rheolaidd – dyna’r ffordd i adeiladu cynulleidfa ffyddlon a ddaw yn ôl tro ar ôl tro.