Pa newyddion mae Cymru yn gweld ar y cyfryngau cymdeithasol yn 2026? Data diddorol o Ofcom

Dilyn straeon yn astud, neu eu gweld ar hap? Photo by Mica Bassa / Pexels

Ers fy mlogiad nôl ym mis Awst, mae Ofcom wedi cyhoeddi adroddiad arall am gyfryngau Cymru!

Mae ‘Pobl yn Cael Gafael ar y Newyddion yn y DU 2026 – Cymru’ (ie, gallai’r teitl fod yn well) yn rhoi mwy o syniad i ni am sut mae pobl yn cael eu newyddion.

Un peth newydd ydy beth yn union mae ‘newyddion’ yn ei feddwl ar y cyfryngau cymdeithasol (o’r diwedd). Ond yn gyntaf, beth am y darlun ehangach?

Darnio: ‘anghenfilod mawr’, y ‘cynffon hir’ ac Anti Pat

I’r rhan fwyaf ohonon ni, mae’r newyddion yn rhan o’n bywydau:

  • Mae gan 66% o bobl Cymru ‘diddordeb’ yn y newyddion
  • Ac mae 20% ‘heb ddiddordeb’ (yr uchaf yn y DU)

Teledu (a ffrydio), y cyfryngau cymdeithasol, a radio sydd ar y blaen.

Wrth gwrs, o fewn y ffigurau yma ceir:

  • Y ‘news junkies’
  • Pobl sy’n clywed y radio yn nghar Anti Pat, wrth sgrolio ar Facebook neu hanner wylio y teledu – neu efallai’n trio osgoi’r newyddion yn llwyr.
  • A phawb rhwng y ddau

Mae’n ddiddorol gweld bod papurau newydd printiedig mor uchel â 33%. Ond eto, er mai lleiafrif sy’n eu prynu, mae’n hawdd dod ar draws papur newydd ffrind neu rywun yn y teulu mewn mis.

Y BBC ac ITV ydy’r unig cynhyrchwyr newyddion yn y deg ffynonell uchaf. Mae Facebook, Google Search ac Instagram yn blatfformau pwysig hefyd.

Un elfen diddorol ydy dibyniaeth uwch y Cymry ar Facebook.

52% oedd wedi gweld newyddion ar blatfform mawr Meta, i gymharu â 37% yn Lloegr a 44% yn yr Alban. Mae patrwm tebyg gydag Instagram.

Newyddion am Gymru

Eto, BBC ac ITV ydy’r unig darparwyr newyddion sylweddol pan ofynnir i bobl am newyddion Cymreig.

Roedd 50% wedi cael newyddion am Gymru o’r BBC yn y mis diwethaf, 37% o bobl wedi gweld newyddion Cymreig ar BBC1.

Mae newyddion Cymreig ITV yn cyrraedd bron chwarter y boblogaeth, ond ar ôl hynny Heart Radio ydy’r unig cwmni arall sy’n creu newyddion ei hun (5%).

Beth ydy ‘newyddion’ ar y cyfryngau cymdeithasol

Dyma gwestiwn pwysig, oherwydd nad ydy ‘gweld newyddion ar Facebook’ yn ein helpu ni llawer o ran gwerthu straeon i’r cyfryngau.

Felly, ar Facebook ei hun, BBC, Sky ac ITV ydy’r ffynonellau newyddion mwyaf i bobl Cymru.

Mae patrwm tebyg ar Youtube, Instagram a Tiktok.

Ond beth am y ‘cynffon hir’?

Yr hyn sy’n fwy diddorol, efallai, ydy’r darparwyr newyddion eraill ar y cyfryngau cymdeithasol.

  • Mae ‘dylanwadwyr/sylwebwyr annibynol’ yn denu cynulleidfa sylweddol ar draws y platfformau, yn arbennig ar Instagram (18%) a Tiktok (22%)
  • Ar Youtube, mae GB News, Channel 4 News a newyddion rhyngwladol i gyd yn cael dros 10%
  • Mae defnyddwyr X yn gweld mwy o amrywiaeth na platfformau eraill: mae 24% wedi gweld newyddion GB News yno, 16% Channel 4 News a 17% darparwyr rhyngwladol. Mae 11% wedi gweld cynnwys newyddiadurwyr.

Gwefannau ac apiau – Wales Online yn llai na BBC Cymru fyw?

Y darlledwyr – BBC (27%), ITV (14%) a Sky (12%) – sy’n dominyddu’r gwefannau ac apiau mwyaf.

Mae ‘cynffon hir’ yno hefyd, gyda’r Guardian (10%), BBC Cymru Fyw (9%) a Ladbible (8%) yn denu cynulleidfaoedd parchus.

Ond beth sy’n digwydd gyda Wales Online? Ar dim ond 4%, mae hwn yn annisgwyl o isel. Dim ond blwyddyn yn ôl, roedd adroddiad Ofcom Ein Gwlad Ar Lein yn honni bod y wefan yn cyrraedd 50% o’r boblogaeth.

Nawr, rwy’n gwybod bod y farchnad yn heriol eleni, ond rwy’n credu bod rhywbeth arall yn digwydd yma!

Rhowch wybod os gallwch chi esbonio. Tybed os oes pobl sy’n cymysgu ‘BBC Wales Online’ a ‘Wales Online’, efallai?

Pwy ddylwn i dargedu?

Mae’n dibynnu! Y cwestiwn cyntaf ydy ‘pwy ydy’r gynulleidfa?’

A phaid â dweud ‘pawb’. Mae gan bob sefydliad grwpiau penodol maen nhw eisiau blaenoriaethu.

Os wyt ti’n trio cyrraedd gweithwyr iechyd yng Ngogledd Cymru, bydd hi’n wahanol i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru neu siarad â phobl gyda arthritis.

Rhaid meddwl hefyd os oes cyfle i gynnig stori digon gref, a’r cynnwys anghenrheidiol. Haws cael rhywbeth am arddangosfa yn Y Drenewydd yn y County Times na Wales Today.

Ac weithiau, nid y cyfryngau traddodiadol ydy’r opsiwn gorau chwaith.

Dyna pam mae hi mor bwysig i gael strategaeth cyfathrebu yn ei lle.

Hoffwn i glywed dy sylwadau!

Eisiau mwy o wybodaeth fel hyn?

Gadael Ymateb