Hydref 2026 – cyrsiau newydd i wella’ch sgiliau cyfathrebu

Staff Mudiad Meithrin ar ôl sesiwn hyfforddiany ysgrifennu copi, 2026

Tymor newydd, sgiliau newydd! Dyma’r cyrsiau rwy’n rhedeg dros y misoedd nesaf ar gyfer cyfathrebwyr Cymru…

19/9/2026 – ‘Llwyddo mewn chwyldro – sut i fanteisio ar fyd cyfryngau newydd’ (Caerdydd)

Cynhelir y sesiwn hon fel yng nghlwb Criced Morgannwg, Caerdydd fel rhan o gynhadledd NUJ ‘Cyflwr y Cyfryngau yng Nghymru’

Mae cyfryngau newyddion Cymru yn newid yn gyflym. Mae’r cyfryngau cymdeithasol a lleisiau unigol yn tyfu, wrth i’r cwmnïau teledu, radio a phapurau golli tir. 

Felly beth ydy pwrpas cysylltiadau â’r cyfryngau yn eich strategaeth cyfathrebu heddiw? A sut gallwch chi lwyddo yn 2026 a thu hwnt?

Yn y sesiwn hon, bydda i’n esbonio:

  • Sut mae perthynas y cyhoedd yng Nghymru â’r cyfryngau yn newid
  • Pam mae’r cyfryngau newyddion yn bwysig o hyd fel rhan o’ch strategaeth
  • Beth sy’n gweithio o ran ennill sylw effeithiol – a chamgymeriadau cyffredin i’w hosgoi
  • Sut y gall sefydliadau a newyddiadurwyr gydweithio er mwyn creu straeon a chynnwys gwych

9/10/2026 – ‘Cyfweliadau campus – cyfleu’ch neges yn effeithiol yn y cyfryngau darlledu‘ (ar lein)

Cwrs Hyfforddiant NUJ Cymru

Mae cyfweliad gyda darlledwr yn gyfle gwych i gael effaith ar nifer mawr o bobl – ond fyddwch chi’n cael yr effaith iawn?

Yn y cwrs byr hwn, byddwch chi’n dysgu sut mae newyddiadurwyr yn gweithio, a sut i gyfleu’ch neges yn effeithiol. Byddwn ni hefyd yn ystyried sut i reoli risgiau!

Mae’r cwrs yma yn addas i lefarwyr neu gyfathrebwyr sy’n cefnogi llefarwyr ei sefydliad.

6/11/2026 – ‘Dwyieithrwydd da: sut y gall cyfathrebwyr elwa o’r Gymraeg a Saesneg‘ (ar lein)

Cwrs Hyfforddiant NUJ Cymru

Mae gweithio’n ddwyieithog yn hanfodol i gyfathrebwyr Cymru – ond sut mae gwneud hynny mewn ffordd effeithiol ac ymarferol?

Yn y cwrs byr hwn, byddwn ni’n edrych ar sut i fod yn strategol am ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg, ymarfer da a gwneud y gorau o ddwyieithrwydd gydag adnoddau cyfyngedig.

Anelir y cwrs yma at bobl sy’n gyfrifol am gyfathrebu cyhoeddus yn ei sefydliad.

Hefyd…sesiynau hyfforddiant cyfathrebu i chi neu i’ch tîm

Eisiau rhoi hwb i’ch cyfathrebu chi? Rwy’n cynnig sesiynau wedi’u teilwra i’r sector cyhoeddus, elusennol a nid-er-elw:

  • Hyfforddiant ysgrifennu copi
  • Gweithdai negeseuon
  • Hyfforddiant cyfweliadau cyfryngau
  • Hyfforddiant cysylltiadau â’r cyfryngau

Leave a Reply

Discover more from Richard Nosworthy - Arbenigwr Cyfathrebu Llawrydd, Caerdydd

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading