Sut i wneud cyfweliad teledu gwych? Meddyliwch fel gohebydd.

‘Meddyliwch fel gohebydd’ yw un techneg dwi wedi’i ddefnyddio fel rhan o’m hyfforddiant cyfyngau – tra’n sianelu fy mhrofiad fel gohebydd ITV Cymru. Dyma ychydig o gyngor am sut i ddefnyddio’r syniad.

Os dych chi’n llefarydd cyfryngau ar ran eich sefydliad, byddwch yn ymwybodol pa mor anodd mae cyflawni cyfweliad ardderchog ar deledu neu radio. Yn ogystal ag edrych yn hyderus, yn aml iawn rydych chi’n trio symleiddio pynciau cymhleth, er mwyn cyflawni soundbite da.

Mae meddwl am yr hyn mae’r newyddiadurwr yn chwilio amdano yn ffordd ddefnyddiol i ddatrys y broblem yma.

Tu fewn pen y gohebydd teledu

Fel rhywun sydd wedi gweithio ar ‘ddwy ochr y ffens’ fel petai (fel gohebydd a llefarydd), mae gen i ddealltwriaeth da o’r heriau sy’n wynebu’r ddau.

Pobl brysur iawn yw gohebwyr newyddion. Fel arfer, mae ganddyn nhw deadlines tynn iawn, gyda phwysau o’r golygydd, sydd eisiau adroddiad diddorol a chytbwys.

Gadewch i ni edrych ar sefyllfa gyffredin iawn: gohebydd sy’n chwilio am ychydig o glipiau fel rhan o ‘becyn’ 2-4 munud. Beth maen nhw ei eisiau?

Beth am dechrau gyda’r pecyn terfynol, a gweithio’n ôl. Ar ddiwedd y dydd, byddan nhw eisiau darn diddorol a chryno. Fel arfer, maen ganddyn nhw hen ddigon o luniau er mwyn ‘adeiladu’r darn – yn aml bydd hyn yn cynnwys astudiaethau achos, lluniau archif, graffegau ac ati.

Ystyriwch stori am rhestrau aros hir mewn ystbytai. Gallai hyn cynnwys lluniau o – a chyfweliad gyda – claf sy’n aros am driniaeth. Efallai bod graffegau a lluniau archif o wardiau ysbyty. Bydd y gohebydd yn defnyddio ‘troslais’ er mwyn esbonio’r story.

Pa rôl mae eich cyfweliad chi yn ei chwarae?

Yn yr enghraifft yma, rydych chi’n siarad ar ran sefydliad sy’n ymgyrchu ar y pwnc yma. Efallai bydd y gohebydd eisiau clip byr – efallai 15 eiliad.

Pwrpas eich clip yw cyfrannu rhywbeth i’r darn na allai ddod o rywle arall. Yn gyffredin, mae hyn yn meddwl:

  • Barn proffesiynol, wedi’i seilio ar ffeithiau
  • Eich persbectif unigryw chi
  • Angerdd ac awdurdod
  • Rhywbeth sy’n tanlinellu pwysicrwydd a pherthnasedd i’r cynulleidfa, a pham y byddai hi’n ddiddorol iddyn nhw

Mae rhain yn bethau na fyddan nhw’n ffeindio’n hawdd ymysg ‘cynhwysion’ eraill y pecyn newyddion, megis lluniau drôn neu gyfweliadau gyda’r cyhoedd.

Helpwch nhw i’ch helpu chi

Felly beth mae hyn yn meddwl i chi, y llefarydd?

Yn y bôn, canolbwyntiwch ar gyfleu neges allweddol sy’n crynhoi eich barn ar y stori mewn 15 eiliad.

Byddwch yn glir am y pwynt hoffech chi ei wneud – a’i becynnu fel rhywbeth fydd yn gweithio’n dda i’r gohebydd.

Os dych chi’n gwneud hyn, maen nhw’n llawer mwy tebygol i ddefnyddio’r geiriau maen nhw eisiau yn eu hadroddiad nhw, yn hytrach na’u torri nhw allan.

Gwella eich sgiliau ymhellach trwy hyfforddiant cyfryngau

Dim ond blas o’r technegau allwch eu defnyddio mewn cyfweliadau yw rhain. Os hoffech chi gwella sgiliau eich tîm ymhellach, beth am hyfforddiant cyfryngau? Rwy’n cynnig hyn i elusennau a sefydliadau nid-er-elw – dyma enghraifft o’r sesiwn a redais i WCIA, a’u tysteb nhw.

Cysylltwch â fi os hoffech chi wybod mwy, neu os dych chi’n barod i gomisiynu sesiwn i’ch tîm. Byddwn i wrth fy modd i’ch helpu chi sicrhau bod eich cyfweliadau yn disgleirio!

Leave a Reply