

Ein gwestai ni y tro yma ydy David Thomas.
Ennillodd David wobr Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn eleni, yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Yn wreiddiol o Gaerdydd, roedd e’n byw yn Lloegr am flynyddoedd, ond mae e wedi symud yn nôl i Gymru, gyda’i ŵr.
Cafodd ei fagu mewn cartref di-Gymraeg, ond dechreuodd ddysgu’r iaith ar ôl ymweliad i’r Eisteddfod. Symudodd e a’i ŵr i Sir Gaerfyrddin, lle maen nhw’n cadw anifeiliad a rhedeg cwmni Jin Talog. Mae David yn awyddus iawn i ddefnyddio Cymraeg yn y gymuned draddodiadol Gymraeg mae e’n byw ynddi hi.
Peidiwch â cholli’r pennod nesaf – tanysgrifiwch yma.

Geirfa
Siapiwch! – Come on / shape up!
Bwrlwm – Hustle and bustle
Cymro gorau, Cymro oddi gartre – a saying, literally translates as ‘The best Welshman is a Welshman away from home’
Gŵydd – Goose
Gwenyn – Bees
Ieir – Chickens
Mewnforio – Import
Cadarnleoedd – Strongholds
Cymryd yn ganiataol – Take for granted