Podlediad Hefyd – Pennod 6, Rodolfo Piskorski

Ein gwestai ni y tro yma ydy Rodolfo Piskorski.

Roodolfo Piskorski

Symudodd e i Gymru o Frasil, ac mae e wedi bod yn y newyddion am fod y person cyntaf i gymryd y prawf dinasyddiaeth Prydeinig (British citizenship test) yn Gymraeg!

Ar ôl pasio’r prawf, defnyddiodd e’r wefan GoFundMe i godi arian ar gyfer gwneud cais dinasyddiaeth (apply for citizenship).

Erbyn hyn, mae Rodolfo yn astudio ieithoedd a dysgu Portiwgaleg i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. 

Mae e’n rhedeg gwefan o’r enw Hiriaith, gyda llawer o bethau defnyddiol i ddysgwyr Cymraeg fel ap ynganu. Mae sianel Youtube gyda fe hefyd a gallwch chi ddilyn Hiriaith ar Twitter.

A peidiwch â cholli’r pennod nesaf – tanysgrifiwch yma.

Geirfa

Prawf dinasyddiaeth Brydeinig – British citizenship test

Prifddinas dalaith – State capital

Llenyddiaeth Saesneg – English literature

Doethuriaeth – Doctorate

Cyfarwyddwr – Director

Penodol – Specific

Swyddogol – Official

Y Swyddfa Gartref – The Home Office (part of UK Government)

Ymgyrch – Campaign

Cais dinasyddiaeth – Citizenship application

Cyhoeddi – Publish

Ces i fy nghyfweld – I was interviewed

Dinesydd – Citizen

Adolygiad – Review

Leave a Reply

Discover more from Richard Nosworthy - Arbenigwr Cyfathrebu Llawrydd, Caerdydd

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading